Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1378083 (translate me)
Llinell 17: Llinell 17:
*[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7130000/newsid_7130800/7130868.stm Erthygl am y darganfyddiau diweddaraf am y sgerbwd ar safle BBC Cymru]
*[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7130000/newsid_7130800/7130868.stm Erthygl am y darganfyddiau diweddaraf am y sgerbwd ar safle BBC Cymru]


[[Categori:Ogofâu Abertawe|Paviland]]
{{eginyn hanes Cymru}}

[[Categori:Ogofâu Cymru]]
[[Categori:Archaeoleg Cymru]]
[[Categori:Hen Oes y Cerrig yng Nghymru]]
[[Categori:Hen Oes y Cerrig yng Nghymru]]
[[Categori:Penrhyn Gŵyr]]
[[Categori:Penrhyn Gŵyr]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Pen-y-bont ar Ogwr]]
[[Categori:Safleoedd archaeolegol Abertawe]]

Fersiwn yn ôl 01:02, 25 Awst 2014

Traeth Rhosili

Ogof gynhanesyddol wedi'i lleoli ger Rhosili ar y Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Paviland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Hen Oes y Cerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.

Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.

Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.

Cadw

Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 [1] Ceir ail ogof gerllaw cyfeiriad grid SS437859 sydd wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504

Cyfeiriadau

Dolenni allanol