Dydd Calan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
gh |
|||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
[[Categori:Gwyliau Celtaidd]] |
[[Categori:Gwyliau Celtaidd]] |
||
[[Categori:Calendr]] |
[[Categori:Calendr]] |
||
[[ar:رأس السنة الميلادية]] |
|||
[[da:Nytårsdag]] |
|||
[[de:Neujahr]] |
|||
[[el:Πρωτοχρονιά]] |
|||
[[fi:Uudenvuodenpäivä]] |
|||
[[ms:Hari Tahun Baharu]] |
|||
[[nn:Nyttårsdag]] |
|||
[[no:Første nyttårsdag]] |
|||
[[simple:New Year's Day]] |
|||
[[sv:Nyårsdagen]] |
Fersiwn yn ôl 21:07, 10 Hydref 2013
- Gall Calan hefyd gyfeirio at y dydd cyntaf o'r mis: Calan Mai, Calan Gaeaf
Dydd Calan yw'r enw ar gyfer diwrnod cyntaf y flwyddyn, sef 1 Ionawr. Gall y gair "calan" hefyd gyfeirio at ddydd cyntaf mis. Arferid credu nifer o goelion a oedd yn berthnasol i'r diwrnod cyntaf o'r flwyddyn e.e. arwyddocâd y person cyntaf i ddod dros trothwy'r drws. Ym Mhenfro aethpwyd â dŵr o gwmpas y tai i'w ddiferyd dros y trigolion i sicrhau hapusrwydd am weddill y flwyddyn. Roedd hel calennig yn arferiad drwy Gymru benbaladr. Mewn ardaloedd eraill yr arferiad oedd i ddyn penddu ymweld â'r tŷ efo darn o lo; deuai hyn â lwc dda i'r trigolion.
Yn 1752 newidiwyd y dyddiad i'r un presennol; cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr[1]. Mae rhai rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan e.e. Cwm Gwaun a Llandysul ar sail yr hen galendr Iwlaidd gafodd ei ddisodli ym 1752 gan galendr Gregori.[2]
Penillion
Dyma rai penillion sy’n cael eu canu ar 13 Ionawr:
- Mae dydd Calan wedi gwawrio
- Dydd tra hynod yw i gofio,
- Dydd i roddi, dydd i dderbyn,
- Yw’r trydydd dydd ar ddeg o’r flwyddyn.
- Rhowch yn hael i rai gwael,
- Rhowch yn hael i rai gwael,
- Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion
- Yw’r rhai hynny sydd yn cael.[3]
Tarddiad y gair "Calan"
Mae'r gair "calan" yn dod o'r Lladin calendae "y galwedig", yr enw ar gyfer diwrnod cyntaf pob mis yn y calendr Rhufeinig.
Gweler hefyd
- Calan Mai
- Calan Gaeaf
- Calendr Coligny: Calendr y Celtiaid
- Calendr Tsieineaidd
- Calendr Hebraeg
- Calendr Islamaidd
Dolenni allanol
- Gwefan Casgliady Werin: Lluniau o blant tua 1961 yn hel calennig
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd; adalwyd 05/101/2013
- ↑ Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan o hyd ; adalwyd 05/01/2013
- ↑ Gwefan Bro Waldo; Yr Hen Galan; adalwyd 05/01/2013