Mathew Paris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q369366 (translate me) |
Ailenwi rhannau o Swydd Efrog ayb using AWB |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
{{comin|Category:Matthew Paris|Matthew Paris}} |
{{comin|Category:Matthew Paris|Matthew Paris}} |
||
⚫ | |||
{{DEFAULTSORT:Paris, Mathew}} |
{{DEFAULTSORT:Paris, Mathew}} |
||
Llinell 16: | Llinell 14: | ||
[[Categori:Hanesyddion Seisnig]] |
[[Categori:Hanesyddion Seisnig]] |
||
[[Categori:Llên Ladin yr Oesoedd Canol]] |
[[Categori:Llên Ladin yr Oesoedd Canol]] |
||
⚫ |
Fersiwn yn ôl 12:32, 13 Gorffennaf 2013
Hanesydd canoloesol o Sais oedd Mathew Paris (c. 1200 - 1259), sy'n adnabyddus hefyd fel darluniwr llawysgrifau.
Ymunodd Mathew ag abaty Benedictaidd St Albans yn 1217 ac aeth yn ddisgybl i'r croniclydd Roger o Wendover a'i olynu fel croniclydd yr abaty yn 1236. Teithiodd i astudio yn Ffrainc ddwywaith ac aeth unwaith yn gennad dros y Pab Innocent IV i Norwy.
Mae ei Chronica Majora yn olygiad a pharhad o gronicl Roger o Wendover. Ynddo ceir hanes tranc Gruffudd ap Llywelyn Fawr wrth geisio dianc o Dŵr Llundain. Cyhoeddodd sawl gwaith arall, gan gynnwys crynhoad o'r blynyddoedd 1200-1250 yn y Chronica Majora (y Historia Minora) a bywgraffiadau abadau.