Rheilffordd Chwarel y Penrhyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7164584 (translate me)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Caewyd y rheilffordd yn [[1962]]. Mae rhan o'r hen drac yn awr yn ffurfio rhan o [[Lôn Las Ogwen]].
Caewyd y rheilffordd yn [[1962]]. Mae rhan o'r hen drac yn awr yn ffurfio rhan o [[Lôn Las Ogwen]].


[[Categori:Bangor]]
[[Categori:Bethesda]]
[[Categori:Cludiant yng Ngwynedd]]
[[Categori:Cludiant yng Ngwynedd]]
[[Categori:Diwydiant llechi Cymru]]
[[Categori:Diwydiant llechi Cymru]]

Fersiwn yn ôl 23:14, 6 Mehefin 2013

Llwytho llechi i wagenni yn Chwarel y Penrhyn tua 1913.
Trac yr hen reilffordd, Tregarth.

Roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn rheilffordd oedd yn cysylltu Chwarel y Penrhyn gerllaw Bethesda a dociau Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Dechreuodd y rheilffordd fel Tramffordd Llandygai yn 1798. Yn 1801, cymerwyd lle Tramffordd Llandygai gan Reilffordd y Penrhyn, yn dilyn trac gwahanol. Roedd tua 6 milltir o hyd.

Adeiladwyd Tramffordd Llandygai, oedd tua milltir o hyd, gan Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn. Roedd yn cludo fflintiau o felin fflintiau ger afon Cegin i Borth Penrhyn. Yn 1801, adeiladwyd rheilffordd i gysylltu Chwarel y Penrhyn a Porth Penrhyn, oedd yn defnyddio ceffylau a disgyrchiant i dynnu'r wagenni. Yn 1878 dechreuwyd defnyddio trenau ager.

Caewyd y rheilffordd yn 1962. Mae rhan o'r hen drac yn awr yn ffurfio rhan o Lôn Las Ogwen.