Jørgen Engebretsen Moe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 12 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q470002 (translate me) |
Man olygu using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Jørgen Moe.jpg|150px|bawd|chwith|Jørgen Moe]] |
||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Norske folke og huldre-eventyr.jpg|200px|bawd|de|Clawr argraffiad 1878 o ''Norske folke og huldre-eventyr'']] |
||
Roedd '''Jørgen Engebretsen Moe''' ([[22 Ebrill]] [[1813]] - [[27 Mawrth]] [[1882]]) yn arbenigwr [[llên gwerin]] a [[bardd]] o [[Norwy]]. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]]. Bu'n esgob [[Christiansand]] o [[1875]] hyd [[1881]]. |
Roedd '''Jørgen Engebretsen Moe''' ([[22 Ebrill]] [[1813]] - [[27 Mawrth]] [[1882]]) yn arbenigwr [[llên gwerin]] a [[bardd]] o [[Norwy]]. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y [[19eg ganrif|bedwaredd ganrif ar bymtheg]]. Bu'n esgob [[Christiansand]] o [[1875]] hyd [[1881]]. |
Fersiwn yn ôl 05:40, 19 Mawrth 2013
Roedd Jørgen Engebretsen Moe (22 Ebrill 1813 - 27 Mawrth 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.
Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.
Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.
Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).
Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.
Llyfryddiaeth
Cyfieithiwyd detholiad da o chwedlau Moe ac Asbjørnsen i'r Saesneg gan Pat Shaw Iversen a Carl Norman, gyda'r lluniau gan Erik Werenskiold a Theodor Kittelsen o'r argraffiad Norwyaidd poblogaidd a gyhoeddwyd yn 1878:
- Norwegian Folk Tales (Dreyers Forlag, Oslo, 1978)
Yn Gymraeg ceir addasiadau o rai o'r chwedlau yn,
- Eirwen Shelbourne (cyf.), Chwedlau Norwy (Llandybïe, 1970)