Aberdeen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn tynnu: diq:Aberdeen (deleted) |
newidiadau man using AWB |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Gweler hefyd [[Swydd Aberdeen]]''. |
:''Gweler hefyd [[Swydd Aberdeen]]''. |
||
[[Delwedd:RossHouse-117156- |
[[Delwedd:RossHouse-117156-Richard Slessor.jpg|250px|bawd|Tŷ'r Provost Ross, Aberdeen]] |
||
Dinas yng ngogledd-ddwyrain [[yr Alban]] yw '''Aberdeen''' ([[Gaeleg]]: '''''Obar Dheathain'''''). Mae hefyd yn un o [[awdurdodau unedol yr Alban]]. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan [[Môr y Gogledd]], rhwng aberoedd [[Afon Dee (Swydd Aberdeen)|Afon Dee]] ac [[Afon Don (Swydd Aberdeen)|Afon Don]], ac mae'n enwog am ei diwydiant [[pysgota]] ac fel un o brif ganolfannau [[diwydiant olew]] yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth. |

Fersiwn yn ôl 18:51, 8 Mawrth 2013
- Gweler hefyd Swydd Aberdeen.
Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg: Obar Dheathain). Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.
Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau
- Coleg Marischal
- Eglwys Gadeiriol Sant Machar
- Neuadd cerddoriaeth
- Tolbooth
- Tŷ'r Provost Ross
Enwogion
- Mary Garden (1874-1967), cantores
- Denis Law (g. 1940), chwaraewr pêl-droed
- Graeme Garden (g. 1943), comediwr
- Annie Lennox (g. 1954), cantores
- Evelyn Glennie (g. 1965), cerddores