Yn y Gwaed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dyfrig (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
→Cymeriadau: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
* Harri Llwyn-crwn |
* Harri Llwyn-crwn |
||
* Jeff |
* Jeff |
||
{{eginyn llenyddiaeth}} |
{{eginyn llenyddiaeth}} |
Fersiwn yn ôl 15:11, 8 Mawrth 2013
Clawr y nofel | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Geraint V. Jones |
Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | Llosgach, euogrwydd a chosb, cyfrinachau, gwallgofrwydd, dirywiad |
ISBN | 1848512023 (argraffiad 1990) 978-1848512023 (argraffiad 2010) |
Nofel gan yr awdur Geraint V. Jones ac a gyhoeddwyd ym 1990 ydy Yn Y Gwaed. Enillodd y nofel Wobr Goffa Daniel Owen ym 1990 a chafodd ei chyhoeddi gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Ail-argraffwyd y llyfr yn 2010. Mae'r nofel bellach yn lyfr gosod ar gwrs Cymraeg TGAU.
Adrodda'r nofel hanes teulu fferm Arllechwedd yng Ngogledd Cymru, lle triga'r prif gymeriadau sef Mam, a'i phlant "Fo", Robin a Mared.
Plot
Dechreua'r nofel wrth i Robin gael hunllef yn llawn elfennau tywyll a sinistr. Caiff ei ddeffro gan ei fam a'i chwaer. Er eu bod yn frawd a chwaer, ceir awgrymiadau cyson o'r bennod gyntaf fod atyniad rhywiol rhwng Robin a Mared. Treulia Robin ei ddiwrnodau yn gweithio ar y fferm, er gwaethaf y boen parhaus mae'n teimlo yn ei gylla.
Dysgwn wrth i'r nofel fynd yn ei blaen fod Robin a Mared yn ffrwyth perthynas a gafodd eu Mam gyda Dewyrth Ifan, sef brawd ei thad a pherchennog gwreiddiol Arllechwedd. Dysgwn hefyd eu bod wedi cael plentyn arall, Fo, ond fod ganddo ef broblemau â'i iechyd. O ganlyniad, caiff ei gadw yn y llofft stabal ddydd a nos.
Cymeriadau
- Mam
- Robin
- Mared
- Fo
- Dewyrth Ifan
- Harri Llwyn-crwn
- Jeff