Cambyses II, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Makecat-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: uk:Камбіс II
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (Robot: Yn newid ar:قمبيز yn ar:قمبيز الثاني
Llinell 18: Llinell 18:


[[af:Kambuses]]
[[af:Kambuses]]
[[ar:قمبيز]]
[[ar:قمبيز الثاني]]
[[be-x-old:Камбіз II]]
[[be-x-old:Камбіз II]]
[[bg:Камбис II]]
[[bg:Камбис II]]

Fersiwn yn ôl 11:39, 25 Chwefror 2013

Cambyses II (Hen Berseg: Kambūjia, Perseg: کمبوجیه (bu farw 522 CC) oedd ail frenin Ymerodraeth Persia.

Roedd Cambyses yn fab i Cyrus Fawr. Pan goncrodd Cyrus Babilon yn 539 CC, ceir Cambyses yn arwain y gwasanaethau crefyddol, ac roedd datganiad Cyrus i drigolion Babilon yn cynnwys enw Cambyses gyda'i dad yn y gweddïau i Marduk. Gelwir ef yn frenin Babilon ar un dabled.Yn 530 CC, cyn i Cyrus gychwyn ar ei ymgyrch olaf, gwnaeth ei fab yn gyd-frenin.

Yn 525 CC, ymgyrchodd Cambyses yn erbyn yr Aifft, lle'r oedd Amasis II newydd farw, ac wedi ei olynu gan ei fab, Psammetichus III. Gorchfygodd fyddin yr Aifft mewn brwydr ger Pelusium, ac yn fuan wedyn cipiodd ddinas Memphis. Daliwyd Psammetichus a'i ddienyddio wedi iddo wrthryfela. Ceisiodd Cambyses goncro Kush, teyrnasoedd Napata a Meroe yn ne yr hyn sy'n awr yn Sudan, ond bu raid iddo ddychwelyd wedi i'w fyddin fethu croesi'r anialwch. Ceir nifer o hanesion amdano gan Herodotus, lle ceir traddodiad iddo ladd tarw Apis, a chael ei gosbi trwy ei yrru'n wallgof. Dywed hefyd iddo yrru byddin o 50,000 i ymosod ar oracl Amun yn Siwa, ond i'r fyddin ddiflannu mewn storm dywod enfawr ar y ffordd.

Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan Darius, a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain. Claddwyd ef yn Pasargadae.

Rhagflaenydd :
Cyrus Fawr
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia
Cambyses II
Olynydd :
Smerdis