Siwa
Jump to navigation
Jump to search
Gwerddon yng ngogledd-orllewin Yr Aifft a phrif dref y werddon honno yw Siwa. Roedd yn enwog fel lleoliad Teml Jupiter Ammon, un o brif oraclau'r Henfyd. Mae'n agos i'r ffin â Libia ac yn ddaearyddol yn rhan o Diffeithwch Libia.
Mae pobl Siwa yn cynnal diwylliant unigryw sy'n wahanol i'r hyn a geir yng ngweddill yr Aifft. Ceir nifer o ffynhonnau naturiol yno ac mae'r tir yn hynod o ffrwythlon mewn cyferbyniaeth drawiadol â'r anialwch diffaith o'i chwmpas.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Robin Maugham, Journey to Siwa (Llundain, 1950). Clasur o lyfr taith gyda nifer o luniau da.