Charyapada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: simple:Charyapada |
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: hi:चर्यापद |
||
Llinell 82: | Llinell 82: | ||
[[bn:চর্যাপদ]] |
[[bn:চর্যাপদ]] |
||
[[en:Charyapada]] |
[[en:Charyapada]] |
||
[[hi:चर्यापद]] |
|||
[[id:Charyapada]] |
[[id:Charyapada]] |
||
[[no:Charya-sangene]] |
[[no:Charya-sangene]] |
Fersiwn yn ôl 20:47, 20 Chwefror 2013
Blodeugerdd o gerddi cyfrinol Bwdaidd o ddwyrain India a gyfansoddwyd rhwng yr 8fed ganrif a dechrau'r 12fed ganrif yw'r Charyapada (Bengaleg: চর্যাপদ, Asameg: চৰ্যাপদ). Maent yn bwysig i ieithegwyr fel enghreifftiau cynnar o'r ieithoedd Asameg, Oriya a Bengaleg. Enw arall ar y Charyapada yw Charyageeti, am eu bod yn padas (pennillion/cerddi) i'w canu. Roedd y beirdd a gyfansoddodd y Charyapadas, sy'n cael eu hadnabod fel Siddhas neu Siddhacharyas (math o seintiau neu ddoethion), yn byw yn Assam, Bengal (sy'n cynnwys Bangladesh heddiw), Orissa a Bihar.
Llawysgrifau
Llawysgrif o ddail palmwydden yn cynnwys 47 pada gyda sylwebaeth Sansgrit yw'r testun cynharaf o'r Charyapadra a wyddys; cafodd ei darganfod yn Llyfrgell Llys Brenhinol Nepal yn 1907. Cafodd ei golygu gan Shastri fel rhan o'r gyfres Hajar Bacharer Purano Bangala Bhasay Bauddhagan O Doha yn 1916 dan y teitl Charyacharyavinishchayah. Yn ddiweddarach cyhoeddodd Prabodhchandra Bagchi gyfieirhiad Tibeteg cynnar gyda 50 pennill [1].
Mae'r cyfieithiad Tibeteg yn rhoi inni wybodaeth ychwanegol. Ysgrifenwyd y nodiadau Sansgrit - Charyageetikoshavritti - gan un Munidatta; enw'e cyfieithydd oedd Chandrakirti.
Beirdd y Charyapada
Priodolir y cerddi i'r beirdd canlynol yn y cyfieithiad Tibeteg:
Bardd | Pada |
---|---|
Luipāda | 1, 29 |
Kukkuripāda | 2, 20, 48 |
Virubāpāda | 3 |
Gundaripāda | 4 |
Chatillapāda | 5 |
Bhusukupāda | 6, 21, 23, 27, 30, 41, 43, 49 |
Kānhapāda | 7, 9, 10, 11, 12, 13, 18, 19, 24, 36, 40, 42, 45 |
Kambalāmbarapāda | 8 |
Dombipāda | 14 |
Shantipāda | 15, 26 |
Mahidharapāda | 16 |
Vināpāda | 17 |
Sarahapāda | 22, 32, 38, 39 |
Shabarapāda | 28, 50 |
Āryadevapāda | 31 |
Dhendhanapāda | 33 |
Darikapāda | 34 |
Bhādepāda | 35 |
Tādakapāda | 37 |
Kankanapāda | 44 |
Jayanandipāda | 46 |
Dhāmapāda | 47 |
Tantripāda | 25 |
Ond mae rhai ysgolheigion diweddar yn meddwl mai Munidatta ei hun sy'n gyfrifol am yr enwau hyn ac yn amau eu dilysrwydd.
Cyfeiriadau
- ↑ Bagchi Prabodhchandra, Materials for a critical edition of the old Bengali Caryapadas (A comparative study of the text and Tibetan translation) Part I, yn Journal of the Department of Letters, Vol.XXX, pp. 1-156, Prifysgol Calcutta, Calcutta,1938 CE