Chartres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hubertl (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: uz:Chartres |
||
Llinell 64: | Llinell 64: | ||
[[th:ชาทร์]] |
[[th:ชาทร์]] |
||
[[uk:Шартр]] |
[[uk:Шартр]] |
||
[[uz:Chartres]] |
|||
[[vi:Chartres]] |
[[vi:Chartres]] |
||
[[vo:Chartres]] |
[[vo:Chartres]] |
Fersiwn yn ôl 08:50, 23 Ionawr 2013
Dinas hanesyddol yng ngogledd Ffrainc yw Chartres, prifddinas département Eure-et-Loir, sy'n gorwedd 96 km i'r de-orllewin o ddinas Paris. Fe'i lleolir ar fryn ar lan Afon Eure.
Chartres oedd prif dref llwyth y Carnutes, ac yn y cyfnod Rhufeinig fe'i gelwid yn Autricum, o enw'r afon Autura (Eure), ac yna civitas Carnutum. Daw'r enw "Chartres" o enw'r Carnutes. Llosgwyd y ddinas gan y Normaniaid yn 858. Yn y Canol Oesoedd roedd yn brif dref adral Beauce. Cafodd ei chipio gan y Saeson yn 1417, ond fe'u gyrrwyd allan yn 1432. Yn ystod Rhyfeloedd Crefyddol Ffrainc, cipiwyd hi gan Henri IV yn 1591, a choronwyd ef yno dair blynedd yn ddiweddarach. Yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Prwsia, fe'i cipiwyd gan yr Almaenwyr yn 1870.
Adeilad pwysicaf y ddinas yw Eglwys Gadeiriol Chartres, sy'n cael ei hystyried yr enghraifft orau o Eglwys Gadeiriol yn yr arddull gothic yn Ffrainc, ac efallai yn y byd. Enwyd yr eglwys fel Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.