Trabzon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn gosod File:View_of_Trabzon.jpg yn lle Trabzon1_RIMG0859.JPG (gan Rillke achos: File renamed: File renaming criterion #3: Correct misleading names into accurate ones.).
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
Sefydlwyd prifysgol yno yn [[1980]].
Sefydlwyd prifysgol yno yn [[1980]].


==Adeiladau a chofadeiladau==
*Amgueddfa Trabzon
*Atatürk Köşkü
*Castell Trabzon
*Mosg Fatih
*Mosg Yeni Cuma
*Parc Boztepe

==Enwogion==
*[[Swleiman I]] (1494-1566), Swltan Ymerawdwr yr [[Otomaniaid]]
*[[Hayati Hamzaoğlu]] (1933-2000), actor
*[[Sunay Akın]] (g. 1962), bardd


[[Categori:Dinasoedd Twrci]]
[[Categori:Dinasoedd Twrci]]

Fersiwn yn ôl 22:19, 28 Tachwedd 2012

Golygfa dros Trabzon.
Canol dinas Trabzon.

Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond).

Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn brifddinas talaith Trabzon.

Hanes

Sefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r Pla Du gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn 1347, ar ei ffordd i Ewrop. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Cwncwerwr yn 1451.

Ar ymyl y ddinas mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth.

Sefydlwyd prifysgol yno yn 1980.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa Trabzon
  • Atatürk Köşkü
  • Castell Trabzon
  • Mosg Fatih
  • Mosg Yeni Cuma
  • Parc Boztepe

Enwogion

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.