Ynysoedd y Galapagos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: lb:Galápagosinselen
PixelBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 70: Llinell 70:
[[mi:Moutere Galápagos]]
[[mi:Moutere Galápagos]]
[[mk:Галапагос]]
[[mk:Галапагос]]
[[mr:गालापागोस द्वीपसमूह]]
[[mr:गॅलापागोस]]
[[ms:Kepulauan Galápagos]]
[[ms:Kepulauan Galápagos]]
[[my:ဂါလာပါဂိုးကျွန်းများ]]
[[my:ဂါလာပါဂိုးကျွန်းများ]]

Fersiwn yn ôl 15:22, 9 Hydref 2012

Ynysoedd y Galapagos o'r gofod

Ynysfor sydd yn perthyn i Ecwador yw Ynysoedd y Galapagos. Mae'r ynysoedd yn y Môr Tawel tua 1,000km oddi ar dir mawr De America a maent yn enwog am y nifer enfawr o rywogaethau endemig ac ymchwil Charles Darwin ar gyfer detholiad naturol.

Mae nifer o'r ynysoedd i'r gogledd o'r cyhydedd a nifer i'r de ac mae'r cyhydedd yn croesi rhan ogleddodd yr ynys fwyaf sef Ynys Isabela.

Cadwraeth

Sefydlwyd Ynysoedd y Galapagos yn Barc Cenedlaethol yn 1959 ac mae'n cynnwys 97.5 o arwynebedd yr ynysoedd ac ar weddill y tir y mae'r pedwar pentref oedd yn bodoli ar y pryd. Roedd tua 1,000 i 2,000 o bobl yn byw ar yr ynysoedd bryd hynny, ond yr 1980au cododd eu nifer yn sylweddol i fod yn 15,000 o bobl. Yn 1986 datganwyd bod y môr o gwmpas yr ynysoedd yn Warchodfa Forwrol. Yn 1978 cydnabuwyd gydnabod yr ynysoedd gan UNESCO fel un o Safleoedd Treftadaeth y Byd, ac yn 2001 estynwyd hyn i gynnwys y môr o'u cwmpas, y Warchodfa Forwrol. Sefydlwyd Cronfa Charles Darwin yn 1959 yng Ngwlad Belg gyda'r pwrpas o hybu cadwraeth yr ynysoedd.

Morlew bach

Rhywogaethau arbennig:

Hanes

Darganfuwyd Ynysoedd y Galapagos gan Fray Tomás de Berlanga ym 1535. Doedd neb yn byw arnynt, er i Thor Heyerdahl gyhoeddi yn y 1950au ei fod wedi darganfod crochenwaith o Dde America sy'n awgrymu i bobl aneddu'r ynysoedd cyn hynny. Mae'r ddadl am y ddamcaniaeth hon yn parháu. Cyfeddiannodd Ecwador yr ynysoedd ar 12 Chwefror 1832.

Cyrhaeddodd Charles Darwin yr ynysodd ar y Beagle ym mis Medi 1835 gan dreulio tua 5 wythnos yn astudio daeareg a bioleg pedair ohonynt.