Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 24: Llinell 24:
[[fa:شورای حقوق بشر سازمان ملل متحد]]
[[fa:شورای حقوق بشر سازمان ملل متحد]]
[[fi:Yhdistyneiden kansakuntien ihmisoikeusneuvosto]]
[[fi:Yhdistyneiden kansakuntien ihmisoikeusneuvosto]]
[[fr:Conseil des droits de l'homme des Nations unies]]
[[fr:Conseil des droits de l'Homme des Nations unies]]
[[he:מועצת האומות המאוחדות לזכויות אדם]]
[[he:מועצת האומות המאוחדות לזכויות אדם]]
[[id:Dewan Hak Asasi Manusia Perserikatan Bangsa-Bangsa]]
[[id:Dewan Hak Asasi Manusia Perserikatan Bangsa-Bangsa]]

Fersiwn yn ôl 14:07, 16 Gorffennaf 2012

Baner y Cenhedloedd Unedig

Corff rhyng-lywodraethol o fewn y Cenhedloedd Unedig sy'n cynnwys 47 gwladwriaeth sy'n gyfrifol am gryfhau hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol o gwmpas y byd yw Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig neu CHDCU (Saesneg: United Nations Human Rights Council neu UNHRC; Ffrangeg: Conseil des droits de l'homme des Nations Unies neu CDHNU). Crewyd y Cyngor gan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 15 Mawrth 2006 gyda'r prif fwriad o ymchwilio i sefyllfaoedd lle torrir hawliau dynol a gwneud awgrymiadau i ddatrys y problemau.[1] Mae'n cwrdd yn Ninas Efrog Newydd. Navi Pillay yw'r Uwch Gomisiynydd Hawliau Dynol presennol.

Yn ogystal â chynnal cyfarfodydd cyffredinol, mae CHDCU o bryd i'w gilydd yn cynnal sesiynau arbennig i drafod materion brys. Pwnc y 9fed Sesiwn Arbennig a agorwyd ar 9 Ionawr 2009 oedd "The grave violations of human rights in the Occupied Palestinian Territory including the recent aggression of the occupied Gaza Strip",[2] i drafod y sefyllfa ddynol yn Llain Gaza a'r cyhuddiadau fod Israel yn euog o gyflawni trosedd rhyfel yn erbyn y Palesteiniaid yn ei ymosodiad ar y diriogaeth honno.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia