Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ka:კემპერი
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.13 - Headlines end with colon (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 18: Llinell 18:
*[[Nolwenn Korbell]], cantores
*[[Nolwenn Korbell]], cantores


== Gweler hefyd: ==
== Gweler hefyd ==
* [[Rhestr trefi a phentrefi Llydaw]]
* [[Rhestr trefi a phentrefi Llydaw]]
* [[Trefi o Gymru wedi eu gefeillio a threfi o Lydaw]]
* [[Trefi o Gymru wedi eu gefeillio a threfi o Lydaw]]

Fersiwn yn ôl 19:58, 4 Gorffennaf 2012

Afon Oded yng nghanol Kemper

Cymuned a thref Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas département Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.

Mae kemper yn air Llydaweg sy'n cyfateb i'r gair "cymer" (afon) yn Gymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.

Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith. Mae ysgolion Diwan yn y dref.

Mae'n un o'r drefi ar lwybr pererindod y Tro Breizh.

Pobl o Kemper

Gweler hefyd