Amldduwiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rubinbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.4) (robot yn ychwanegu: lb:Polytheismus |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ur:مشرکیت |
||
Llinell 91: | Llinell 91: | ||
[[tr:Çoktanrıcılık]] |
[[tr:Çoktanrıcılık]] |
||
[[uk:Політеїзм]] |
[[uk:Політеїзм]] |
||
[[ur:مشرکیت]] |
|||
[[vi:Thuyết đa thần]] |
[[vi:Thuyết đa thần]] |
||
[[war:Politeismo]] |
[[war:Politeismo]] |
Fersiwn yn ôl 22:30, 18 Mehefin 2012
Amldduwiaeth yw'r gred mewn nifer o dduwiau a duwiesau, yn aml mewn pantheon. Yn aml mae mytholeg ynghlwm a'r duwiau, yn eu portreadu gyda chymeriadau a phriodoleddau gwahanol. Mewn rhai ffurfiau o amldduwiaeth, credir fod y duwiau a'r duwiesau i gyd yn wahanol agweddau ar un bod dwyfol.
Un enghraifft hanesyddol o amldduwiaeth yw Crefydd yr Hen Aifft, lle'r oedd nifer fawr o dduwiau a duwiesau, rhai yn cymryd ffurfiau dynol ac eraill ffurfiau anifeiliaid. Rhai o'r prif dduwiau oedd Amon, Ra, Ptah, Isis ac Osiris. Ceir nifer fawr o dduwiau a duwiesau hefyd yng nghrefydd y Groegiaid, a chrefydd debyg y Rhufeiniaid; roedd gan y Celtiaid hefyd nifer fawr o dduwiau.
Yn aml, ceir yr un math o dduw neu dduwies yn ymddangos mewn traddodiadau gwahanol:
Ymhlith crefyddau modern, Hindŵaeth yw'r enghraifft amlycaf o amldduwiaeth. Ystyrir bod y duwiau a duwiesau i gyd yn agweddau ar yr hanfod dwyfol Brahman. Ceir rhai ysgolion mewn Hindŵaeth sy'n addoli un duw un unig, er enghraifft Vishnu neu Shiva, er heb wadu bodolaeth y gweddill.
Coleddir undduwiaeth gan grefyddau megis Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam. Yn ôl y Qur'an, shirk (amldduwiaeth) yw'r pechod mwyaf.