Francisco Franco: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: war:Francisco Franco |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: mk:Франциско Франко |
||
Llinell 68: | Llinell 68: | ||
[[lt:Francisco Franco]] |
[[lt:Francisco Franco]] |
||
[[lv:Fransisko Franko]] |
[[lv:Fransisko Franko]] |
||
[[mk:Франциско Франко]] |
|||
[[ml:ഫ്രാൻസിസ്കോ ഫ്രാങ്കോ]] |
[[ml:ഫ്രാൻസിസ്കോ ഫ്രാങ്കോ]] |
||
[[mr:फ्रांसिस्को फ्रँको]] |
[[mr:फ्रांसिस्को फ्रँको]] |
Fersiwn yn ôl 08:03, 24 Mawrth 2012
Roedd Francisco Franco Bahamonde (4 Rhagfyr 1892 - 20 Tachwedd 1975), yn gadfridog a ddaeth yn unben Sbaen o ganlyniad i Ryfel Cartref Sbaen rhwng 1936 a 1939 ac a gadwodd ei afael ar y wlad hyd ei farwolaeth.
Ganed ef yn Ferrol, Sbaen. Roedd ei dad yn y llynges, ond gan fod prinder swyddi yn y llynges, penderfynodd Franco ymuno a'r fyddin. Aeth i academi filwrol Toledo, lle graddiodd yn safle 251 allan o 312. Cafodd yrfa fwy llwyddiannus wedyn, gan ddod yn gadfridog ieuengaf y fyddin.
Pan ddechreuodd y fyddin baratoi gwrthryfel yn erbyn llywodraeth adain-chwith Sbaen yn 1936, roedd Franco'n amlwg yn y paratoadau. Y prif arweinwyr eraill ymhlith y swyddogion a geisiodd gipio grym oedd José Sanjurjo ac Emilio Mola. José Sanjurjo oedd wedi ei fwriadu fel yr arweinydd, ond fe'i lladdwyd mewn damwain awyren wrth hedfan o Bortiwgal i Sbaen, a daeth Franco yn arweinydd. Daeth yn arweinydd y lluoedd Cenedlaethol, ac ar ddiwedd y rhyfel cartref ar 1 Ebrill 1939, yn unben Sbaen. Roedd ganddo berthynas weddol agos ag Adolf Hitler a Benito Mussolini, oedd wedi ei gynorthwyo yn y rhyfel cartref, ond gwrthododd ymuno a hwy yn yr Ail Ryfel Byd.
Nodweddid ei gyfnod mewn grym gan bwyslais trwm ar draddodiad Sbaen a Chatholigiaeth, a gwrthwynebiad cryf i unrhyw fygythiad i awdurdod canolog.