Dodona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]]. |
Hen ganolfan grefyddol ger [[Ioaninna]] yn nhalaith [[Epiros]] (Epirus), gogledd-orllewin [[Gwlad Groeg]]. |
||
Ystyrid [[Oracl]] y duw [[Zeus]] yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg [[Homer]] yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn [[yr Iliad]] ac yn yr [[Yr Odyssey|Odyssey]]. Dywed y daearyddwr [[Strabo]] fod yr oracl wedi cael ei symud yno o [[Skotoussa]] yn [[Thessaly]] ar orchymyn y duw [[Apollo]], ond yn ôl yr hanesydd [[Herodotus]] sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] (yn [[yr Aifft]]) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. |
Ystyrid [[Oracl]] y duw [[Zeus]] yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg [[Homer]] yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn [[yr Iliad]] ac yn yr [[Yr Odyssey|Odyssey]]. Dywed y daearyddwr [[Strabo]] fod yr oracl wedi cael ei symud yno o [[Skotoussa]] yn [[Thessaly]] ar orchymyn y duw [[Apollo]], ond yn ôl yr hanesydd [[Herodotus]] sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o [[Thebes (Yr Aifft)|Thebes]] (yn [[yr Aifft]]) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. Aeth y golomen arall i [[Teml Jupiter Ammon|deml enwog Jupiter Ammon]] yn yr Aifft (ger tref [[gwerddon|werddon]] [[Siwa]] heddiw). |
||
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y ''selloi'', nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y [[Pythones|bythones]] yn [[Delphi]]. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden. |
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y ''selloi'', nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y [[Pythones|bythones]] yn [[Delphi]]. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden. |
Fersiwn yn ôl 15:44, 7 Mawrth 2007
Hen ganolfan grefyddol ger Ioaninna yn nhalaith Epiros (Epirus), gogledd-orllewin Gwlad Groeg.
Ystyrid Oracl y duw Zeus yn Dodona fel un o'r rhai hynaf yn Ngwlad Groeg ac roedd yn mwynhau parch mawr ymhlith y Groegwyr. Mae'r bardd Groeg Homer yn cyfeirio at "Dodona gaeafol" yn yr Iliad ac yn yr Odyssey. Dywed y daearyddwr Strabo fod yr oracl wedi cael ei symud yno o Skotoussa yn Thessaly ar orchymyn y duw Apollo, ond yn ôl yr hanesydd Herodotus sefydlwyd yr oracl ar ôl i golomen o Thebes (yn yr Aifft) lanio ar hen dderwydden a dyfai yno. Aeth y golomen arall i deml enwog Jupiter Ammon yn yr Aifft (ger tref werddon Siwa heddiw).
Yn ôl Homer eto gwasanaethid yr oracl gan offeiriaid, y selloi, nad olchant eu traed ac a gysgai ar y llawr, ond yn erbyn y cyfnod clasurol gwasanaethai offeiriadesau yno. Roeddent yn daroganu ar ôl disgyn mewn perlewyg, fel y bythones yn Delphi. Mae Herodotus yn dweud fod yr oracl yn siarad trwy sibrwd dail y dderwydden.
Cafodd y safle ei gloddio am y tro cyntaf yn 1875 ac ers 1952 mae Gwasanaeth Archaeolegol Gwlad Groeg wedi cloddio yno yn achlysurol.
Y prif olion sydd i'w gweld yno heddiw yw'r Theatr (mewn lliw oren ar y map), a godwyd yn amser Pyrrhus (297 C.C.-272 C.C.), yr acropolis (lliw brown), Teml Aphrodite (rhif 10 ar y map) a safle'r oracl ei hun, Temenos Zeus Naios (rhif 11 ar y map). Mae yno hefyd basilica cynnar (rhif 16).
Llyfryddiaeth
- Stuart Rossiter (gol.), Greece yn y gyfres Blue Guides (Llundain, 1973). Disgrifiad manwl o'r safle, gyda mapiau.
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)