Graffiti: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sw:Graffiti |
B r2.7.2) (robot yn newid: hy:Գրաֆիտի |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
[[hr:Grafiti]] |
[[hr:Grafiti]] |
||
[[hu:Graffiti]] |
[[hu:Graffiti]] |
||
[[hy: |
[[hy:Գրաֆիտի]] |
||
[[id:Grafiti]] |
[[id:Grafiti]] |
||
[[it:Graffiti writing]] |
[[it:Graffiti writing]] |
Fersiwn yn ôl 22:50, 8 Ionawr 2012
Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.
Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Nigel Rees, Graffiti lives OK, 1979.