Golwg360: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[Categori:Y wasg Gymraeg]] |
[[Categori:Y wasg Gymraeg]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Gwefannau Cymraeg]] |
||
[[Categori:Gwefannau Cymaeg]] |
|||
[[Categori:Cyfryngau Cymraeg]] |
[[Categori:Cyfryngau Cymraeg]] |
||
[[Categori:Sefydliadau 2009]] |
[[Categori:Sefydliadau 2009]] |
Fersiwn yn ôl 15:10, 12 Rhagfyr 2011
Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009.
Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grant cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru a gwerthiant hysbysebion a gwasanaethau masnachol drwy'r wefan. Cafodd grant ddechreuol o £600,000 dros gyfnod o dair mlynedd, gan roi diwedd ar obeithion Dyddiol Cyf ar gyfer cael arian cyhoeddus ar gyfer papur dyddiol print Cymraeg Y Byd. Ym Mawrth 2011 cafodd Golwg360 estyniad i'w grant am dair mlynedd arall wedi adroddiad ffafriol gan Wavehill Consulting.[1][2]
Er bod cryn gydweithio rhwng Cylchgrawn Golwg a Golwg360 ar sawl lefel, rhedir y ddau wasanaeth newyddion fel busnesau ar wahân gyda'u golygyddion eu hunain. Owain Schiavone yw prif-weithredwr Golwg360; a Bethan Lloyd yw'r golygydd presennol, sydd yn cymryd lle Ifan Morgan Jones fu'n olgydd rhwng Mai 2009 a Medi 2011.[3]
Mae prif adrannau y wefan yn cynnwys:
- Newyddion
- Chwaraeon
- Celfyddydau
- Calendr
- Blog
- Bwyd
- Lle Pawb
- Adran Swyddi
Ers i wasanaeth newyddion BBC Cymru roi'r gorau i gyhoeddi newyddion Prydeinig a rhyngwladol, Golwg360 yw'r unig fan gyhoeddwr print lle gellir darllen straeon newyddion dyddiol sydd ddim â ffocws penodol Cymreig.[4]