Sgwrs:Golwg360

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

'Man gyhoeddwr print'[golygu cod]

Mae'r gosodiad canlynol yn fy nrysu i braidd:

Ers i wasanaeth newyddion BBC Cymru roi'r gorau i gyhoeddi newyddion Prydeinig a rhyngwladol, Golwg360 yw'r unig fan gyhoeddwr print lle gellir darllen straeon newyddion dyddiol sydd ddim â ffocws penodol Cymreig.

1. All gwasanaeth ar-lein yn unig gael ei ystyried yn 'gyhoeddwr print'?
2. Tydy'r gosodioad ddim yn wir beth bynnag, gan bod Barn a'r Faner Newydd yn cyheoddi erthyglau am bynciau sydd ddim â ffocws penodol Cymreig.--92.245.247.100 08:15, 17 Medi 2012 (UTC)[ateb]

Dwi 'di dileu'r frawddeg honno, gan nad oedd y cyfeiriad yn sôn am Golwg (y cylchgrawn na'r wefan) o gwbl! —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:47, 5 Hydref 2012 (UTC)[ateb]