Cymru yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
90sveped (sgwrs | cyfraniadau)
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:18, 15 Chwefror 2021

Cyhoeddwyd ar 9 Mai 2018 byddai Cymru yn cystadlu am y tro cyntaf yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision i'w gynnal yn Minsk, Belarus. Y darlledwr S4C sy'n gyfrifol am gymryd rhan yn y gystadleuaeth.[1] Dewiswyd y cystadleuydd fydd yn cynrychioli Cymru drwy glyweliadau a ddangoswyd mewn cyfres o dair rhaglen deledu Chwilio am Seren.[2] Enillydd y gyfres ar 9 Hydref oedd Manw o Rostryfan gyda'r gân "Berta" a ysgrifennwyd gan Yws Gwynedd.[3] Daeth Cymru yn olaf yn y gystadleuaeth gyda 29 pwynt.[4]

Bu Cymru yn cymeryd rhan yn y gystadleuaeth o'r blaen fel rhan o'r Deyrnas Unedig rhwng 2003 a 2005 drwy rwydwaith ITV. Dangosodd S4C ddiddordeb mewn cystadlu yng ngystadleuaeth 2008 yn Limassol, Cyprus, ond penderfynodd peidio gwneud yn y diwedd.[5]

Cystadleuwyr

Allwedd

     Enillydd      Ail safle      Trydydd safle      Safle olaf

Blwyddyn Artist Cân Iaith Safle Pwyntiau
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2018 Manw "Berta" Cymraeg 20/20 29
Cystadleuaeth Junior Eurovision 2019 Erin Mai "Calon yn Curo" Cymraeg 18/19 35


Cyfeiriadau

  1. "Chwilio am Seren". junioreurovision.cymru. S4C. 9 Mai 2018. Cyrchwyd 9 Mai 2018.
  2. Granger, Anthony (9 Mai 2018). "Wales: Debuts in the Junior Eurovision Song Contest". Eurovoix. Cyrchwyd 10 Mai 2018.
  3. "Manw yw Enillydd Chwilio am Seren Junior Eurovision". S4C Press. 9 Hydref 2018. Cyrchwyd 10 Hydref 2018.
  4. Siom i Manw yn Minsk , Golwg360, 25 Tachwedd 2018.
  5. Kuipers, Michael (20 Ebrill 2008). "Junior Eurovision 2008: United Kingdom to return to JESC?". ESCToday. Cyrchwyd 9 Mehefin 2009. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)

Dolenni allanol