Ferdinand I, Ymerawdwr Awstria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici732
Tagiau: Golygiad cod 2017
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:28, 29 Awst 2020

Ferdinand I, Ymerawdwr Awstria
Ganwyd19 Ebrill 1793 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1875 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Awstria Edit this on Wikidata
PriodMaria Anna Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Hapsbwrg-Lorraine Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Knight Grand Cross of the Order of Saint Ferdinand and of Merit, Uwch Croes Urdd Siarl III Edit this on Wikidata

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg-Lorraine oedd Ferdinand (19 Ebrill 179329 Mehefin 1875) a fu'n Ymerawdwr Awstria (1835–48), yn Frenin Hwngari (1830–48), yn Frenin Bohemia (1835–48), ac yn Archddug Awstria (1835–48).

Ganed yn Fienna yn fab hynaf i Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig (ac yn ddiweddarach Ffransis I, Ymerawdwr Awstria) a Maria Theresa, Tywysoges Napoli a Sisili. Er iddo ddioddef epilepsi a gwendid meddwl, mynnodd Ffransis wneud Ferdinand yn etifedd y goron.[1]

Coronwyd Ferdinand yn Frenin Hwngari ym 1830. Yn sgil marwolaeth yr Ymerawdwr Ffransis ar 2 Mawrth 1835, esgynnodd Ferdinand i orseddau Ymerodraeth Awstria a Theyrnas Bohemia. Oherwydd ei afiechydon, cafodd yr ymerodraeth ei llywodraethu gan gynhadledd wladwriaethol dan arweiniad Klemens Wenzel von Metternich. Yn sgil chwyldroadau 1848, ildiodd Ferdinand yr orsedd i'w nai Franz Joseph ar 2 Rhagfyr 1848.

Bu farw Ferdinand ym Mhrag yn 82 oed.[1]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ferdinand (I), emperor of Austria. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Awst 2020.