Ffeministiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: te:స్త్రీవాదం, yi:פעמיניזם |
categoreiddio |
||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
* Gwersyll merched Greenham Common yn cael ei sefydlu gan 36 o ferched o Gaerdydd. |
* Gwersyll merched Greenham Common yn cael ei sefydlu gan 36 o ferched o Gaerdydd. |
||
[[Categori: |
[[Categori:Ffeministiaeth| ]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Damcaniaethau cymdeithasol]] |
||
[[Categori:Gwleidyddiaeth hunaniaeth]] |
|||
[[Categori:Merched]] |
[[Categori:Merched]] |
||
Fersiwn yn ôl 21:48, 3 Medi 2011
Mudiadau gwleidyddol, celfyddydol, ac economeg sy'n ceisio hawliau a chydraddoldeb i ferched ydy ffeministiaeth. Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael eu cynnwys a'u gwarchod gan y gyfraith o fewn cymdeithas, o fewn byd y gyfraith, busnes, addysg. Gellir edrych arno fel rhan neu ymsetyniad o hawliau dynol.
Dros y blynyddoedd defnyddiwyd llawer o ymgyrchoedd gwahanol ac ymfflamychol i newid yr ogwydd tuag at gydraddoldeb. Gall y gair "ffeminist" gyfeirio at berson o'r naill ryw neu'r llall, sy'n credu mewn daliadau ffeministiaeth.
Cerrig milltir pwysig yng Nghymru
- 1850 Cyhoeddi cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched (Y Gymraes)
- 1865 Y Cymry ym Mhatagonia yn rhoi'r hawl i ferched i bleidleisio.
- 1871 Rose Crawshay yn cael ei hethol ar gorff cyhoeddus (Bwrdd Ysgolion Merthyr Tydfil).
- 1872 Coleg hyfforddi athrawesau ifanc yn agor yn Abertawe
- 1883 Prifysgol Caerdydd yn caniatau derbyn merched fel myfyrwyr.
- 1885 Y ferch gyntaf i fod yn feddyg yng Nghymru: Frances Hoggan.
- 1886 Sefydlu "Cymdeithas i Hyrwyddo Addysg Merched Cymru"
- 1891 Byddin yr Iachawdwriaeth yn agor lloches i ferched - y cyntaf y tu allan i Lundain - yng Nghaerdydd.
- 1907 Sefydlu Mudiad Suffrage yn Llandudno
- 1912 Irene Steer o Gaerdydd yn ennill Medal Aur yng Ngemau Olympaidd Stockholm, am nofio 400 metr.
- 1915 cangen gyntaf o Sefydliad y Merched yn cael ei sefydlu, a hynny yn Llanfair Pwllgwyngyll.
- 1929 Megan Lloyd George yn cael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Ynys Môn ar ran y Rhyddfrydwyr
- 1967 Sefydlu Merched y Wawr gan Zonia Bowen ac eraill.
- Gwersyll merched Greenham Common yn cael ei sefydlu gan 36 o ferched o Gaerdydd.