Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ieithoedd Slafonaidd"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 51 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
{{legend|#004040|Gwledydd lle mae [[iaith Slafaidd Ddeheuol]] yn iaith genedlaethol}}]]
 
Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r '''ieithoedd Slafaidd''', sy'n cael eu siarad gan [[Y Slafiaid|y Slafiaid]]. Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafaidd gorllewinol ([[Pwyleg]], [[Slofaceg]], [[Sorbeg]] a [[Tsieceg]]), yr ieithoedd Slafaidd dwyreiniol ([[Belarwsieg]], [[Rwsieg]] ac [[Wcreineg]], a'r ieithoedd Slafaidd deheuol ([[Bosneg]], [[Bwlgareg]], [[Croateg]], [[Macedoneg]], [[Serbeg]] a [[Slofeneg]]). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafaidd eraill wedi marw: [[Hen Slafoneg Eglwysig]] (Slafaidd deheuol) a Polabeg (iaith Slafiaid gogledd-orllewin yr Almaen).
 
Heddiw mae'r ieithoedd Slafaidd yn defnyddio naill ai'r [[gwyddor Gyrilig|wyddor Gyrilig]] neu'r [[gwyddor Ladin|wyddor Ladin]] ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafaidd gorllewinol a deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio [[Bwlgareg]], [[Macedoneg]], ac, i radd helaeth, [[Serbeg]], sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafaidd dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer [[Hen Slafoneg Eglwysig]] gan SS. Cyril a Methodiws, o'r nawfed ganrif ymlaen yn y gwledydd Slafaidd deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
2,394

golygiad

Llywio