2,394
golygiad
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau) B (Wedi symud Ieithoedd Slafonaidd i Ieithoedd Slafaidd trwy ailgyfeiriad.: Slafaidd yw'r term cywir) |
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau) No edit summary |
||
Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r '''ieithoedd Slafaidd'''. Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafaidd gorllewinol ([[Pwyleg]], [[Slofaceg]], [[Sorbeg]] a [[Tsieceg]]), yr ieithoedd Slafaidd dwyreiniol ([[Belarwsieg]], [[Rwsieg]] ac [[Wcreineg]], a'r ieithoedd Slafaidd deheuol ([[Bosneg]], [[Bwlgareg]], [[Croateg]], [[Macedoneg]], [[Serbeg]] a [[Slofeneg]]). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafaidd eraill wedi marw: [[Hen Slafoneg Eglwysig]] (Slafaidd deheuol) a Polabeg (iaith Slafiaid gogledd-orllewin yr Almaen).
Heddiw mae'r ieithoedd Slafaidd yn defnyddio naill ai'r [[gwyddor Gyrilig|wyddor Gyrilig]] neu'r [[gwyddor Ladin|wyddor Ladin]] ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafaidd gorllewinol a deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio [[Bwlgareg]], [[Macedoneg]], ac, i radd helaeth, [[Serbeg]], sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafaidd dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer [[Hen
[[Category:Ieithoedd Slafaidd|*]]
|
golygiad