Gâl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: '''Gâl''' (Lladin: '''Gallia''') oedd enw'r Rhufeiniaid am diriogaeth y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw. [[Gallia ... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y |
Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y |
||
Rhufeiniaid tua'r [[3edd ganrif CC]]/[[ail ganrif CC]]. Yn [[89 CC]] a [[49 CC]] cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r ail ganrif CC goresgynodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith [[Gallia |
Rhufeiniaid tua'r [[3edd ganrif CC]]/[[ail ganrif CC]]. Yn [[89 CC]] a [[49 CC]] cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r ail ganrif CC goresgynodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith [[Gallia Narbonensis]] yno. Ond doedden nhw ddim yn fodlon ar hynny. Yn [[58 CC|58]]-[[51 CC]] arweiniodd [[Iŵl Cesar]] ei [[Rhestr llengoedd Rhufeinig|llengoedd]] i weddill Gâl a'i chwncweru ar ol nifer o frwydrau |
||
caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith |
caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith |
||
gan yr ymerodr [[Augustus]] yn [[27 CC]]: [[Galla Belgica]] yn y gogledd-ddwyrain, [[Galla Aquitania]] yn y de-orllewin a [[Gallia Lugdunensis]] yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum ([[Lyons]]) fel [[coloni]] yng nghanol y "Tair Gâl" (''Tres Galliae'') hyn yn [[43 CC]]. Gwasanethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y [[Concilium Galliarum]] ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod. |
gan yr ymerodr [[Augustus]] yn [[27 CC]]: [[Galla Belgica]] yn y gogledd-ddwyrain, [[Galla Aquitania]] yn y de-orllewin a [[Gallia Lugdunensis]] yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum ([[Lyons]]) fel [[coloni]] yng nghanol y "Tair Gâl" (''Tres Galliae'') hyn yn [[43 CC]]. Gwasanethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y [[Concilium Galliarum]] ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod. |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Gweler hefyd== |
==Gweler hefyd== |
||
*[[Galeg]] |
|||
*[[Gallia Aquitania]] |
*[[Gallia Aquitania]] |
||
*[[Gallia Belgica]] |
*[[Gallia Belgica]] |
||
*[[Gallia Cisalpina]] |
*[[Gallia Cisalpina]] |
||
*[[Gallia Lugdunensis]] |
*[[Gallia Lugdunensis]] |
||
*[[Gallia |
*[[Gallia Narbonensis]] |
||
*[[Gallia Transalpina]] |
*[[Gallia Transalpina]] |
||
*[[Y Celtiaid]] |
*[[Y Celtiaid]] |
Fersiwn yn ôl 17:49, 24 Ionawr 2007
Gâl (Lladin: Gallia) oedd enw'r Rhufeiniaid am diriogaeth y llwythau Celtaidd yn Ffrainc, y Swistir a gogledd yr Eidal heddiw. Gallia Cisalpina ("Gâl yr ochr yma i'r Alpau") neu Gallia Citerior oedd yr enw am ei diriogaeth yng ngogledd yr Eidal; Gallia Transalpina ("Gallia tu hwnt i'r Alpau") neu Gallia Ulterior oedd yr enw am ei diriogaeth rhwng Afon Rhein, y Pyrenées, yr Alpau, y Môr Canoldir a'r Môr Iwerydd (sy'n cyfateb yn fras i Ffrainc a Gwlad Belg heddiw). Yn y cyfnod modern mae rhai haneswyr yn defnyddio'r enw i gyfeirio at yr Âl orllewinol yn bennaf neu'n unig.
Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y Rhufeiniaid tua'r 3edd ganrif CC/ail ganrif CC. Yn 89 CC a 49 CC cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r ail ganrif CC goresgynodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith Gallia Narbonensis yno. Ond doedden nhw ddim yn fodlon ar hynny. Yn 58-51 CC arweiniodd Iŵl Cesar ei llengoedd i weddill Gâl a'i chwncweru ar ol nifer o frwydrau caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith gan yr ymerodr Augustus yn 27 CC: Galla Belgica yn y gogledd-ddwyrain, Galla Aquitania yn y de-orllewin a Gallia Lugdunensis yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum (Lyons) fel coloni yng nghanol y "Tair Gâl" (Tres Galliae) hyn yn 43 CC. Gwasanethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y Concilium Galliarum ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod.
Blodeuai diwylliant arbennig yn yr Âl Rufeinig, a gyfunai elfennau Celtaidd a Rhufeinig; fe'i gelwir weithiau'n ddiwylliant Galo-Rufeinig. Yn ystod yr ail ganrif dechreuodd Cristnogaeth gyrraedd Gâl a chafodd hyn yn ei thro effaith sylweddol ar iaith a diwylliant yr ardal. Yn y 3edd ganrif cafwyd nifer o gyrchoedd ar Âl gan lwythau Germanaidd a phan ymadawodd y llengoedd Rhufeinig olaf yn y 5fed ganrif goresgynwyd y wlad i gyd gan y Germaniaid a chafodd ei rhannu rhwng y prif lwythau, sef y Ffranciaid, y Alemanni, y Bwrgwyniaid a'r Visigothiaid.