Apollo 13
Gwedd
| Enghraifft o: | taith ofod gyda phobol |
|---|---|
| Màs | 45,931 kg |
| Rhan o | Rhaglen Apollo |
| Rhagflaenwyd gan | Apollo 12 |
| Olynwyd gan | Apollo 14 |
| Gweithredwr | NASA |
| Gwneuthurwr | North American Aviation, Grumman |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Hyd | 514,481 eiliad |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0t0b |
Apollo 13 oedd enw'r seithfed taith ofod Americanaidd a oedd yn cynnwys dyn ar fwrdd y roced; fe'i gwnaed fel rhan o Rhaglen Apollo NASA. Ei chriw oedd Jim Lovell, John Swigert, a Fred Haise.
Cychwynodd y daith ar 11 Ebrill 1970, am 13:13 CST. Y bwriad oedd glanio ar y Lleuad am y trydydd tro, ond bu problemau technegol, wedi deuddydd o deithio pan chwythodd tanc ocsigen a gorfu i'r gofodwyr gefnu ar y syniad o lanio ar y Lleuad, a theithiwyd o amgylch y Lleuad gan ddychwelyd yn ddiogel i'r Ddaear ar 17 Ebrill.

