Apollo 12
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | taith ofod gyda phobol, glaniad ar y Lleuad ![]() |
Rhan o | Rhaglen Apollo ![]() |
Hyd | 880,584 eiliad ![]() |
Lleoliad | LQ19 ![]() |
Gweithredwr | NASA ![]() |
![]() |
Taith ofod Americanaidd oedd Apollo 12 a'r chweched roced i gario dyn i fyny i'r gofod fel rhan o Raglen Apollo.
Ei chriw oedd Charles Conrad, Richard Gordon, ac Alan Bean.
Lansiwyd y roced (Saturn V) ar 14 Tachwedd, 1969, pedwar mis ar ôl Apollo 11. Glaniwyd ar y Lleuad yn yr ardal a fedyddiwyd yn Fôr Gwybodaeth (Mare Cognitum). Pan ddaeth Conrad allan o'r goden Leuad a sefyll ar wyneb y Lleuad dywedodd, "Whoopie! Man, that may have been a small one for Neil, but that's a long one for me." Roedd ychydig yn fyrach o ran corff nag Armstrong.
Mae darn o garreg Leuad yn 3.3 biliwn mlwydd oed o alldaith Apollo 12 i'w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ar fenthyg gan NASA.[1]