Antoni Malczewski

Oddi ar Wicipedia
Antoni Malczewski
Portread o Antoni Malczewski gan Henryk Piątkowski (diwedd y 19g).
Ganwyd3 Mehefin 1793 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mai 1826 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Krzemieniec Lyceum Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amQ11768683 Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata
TadJan Józef Malczewski Edit this on Wikidata
LlinachQ63532429, Q63532431 Edit this on Wikidata

Bardd Pwylaidd oedd Antoni Malczewski (3 Mehefin 17932 Mai 1826) sydd yn nodedig am ei gerdd "Maria" (1825), un o weithiau cynhara'r mudiad Rhamantaidd yn llên Gwlad Pwyl.

Ganed ef yn ystod blynyddoedd olaf y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, naill ai yn Warsaw neu yn Knyaginino, yn fab o deulu cefnog o filwyr a thirfeddianwyr. Cafodd ei fagu yn rhanbarth Volyn, yn y gororau rhwng y Bwyldir a'r Wcráin, a mynychodd yr ysgol yn Krzemieniec. Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, ymunodd â byddin Dugiaeth Warsaw. Cafodd ei ryddhau o wasanaeth milwrol yn sgil buddugoliaeth Ymerodraeth Rwsia yn erbyn Ymerodraeth Napoleon, ac aeth ar grwydr drwy Orllewin Ewrop. Ymsefydlodd yn Wcráin ym 1821, a syrthiodd mewn cariad â Zofia Rucińska, gwraig a oedd yn dioddef gan nerfusrwydd. Bu'r berthynas yn boenus ac yn gywilyddus, ac i osgoi sgandal, ffoes y ddau ohonynt ac ymsefydlasant yn Warsaw.[1]

Ym 1825 cyhoeddodd ei unig waith llenyddol, y gerdd hir "Maria", sydd yn traddodi hanes y gŵr ifanc Wacław wrth iddo frwydro'n erbyn y Tatariaid. Wedi iddo ymlid y goresgynwyr hynny o Wcráin, mae'n dychwelyd i'w gartref, ond i ddarganfod corff ei wraig, Maria, yn farw. Dyma esiampl nodweddiadol a dylanwadol o'r "ysgol Wcreinaidd" ym marddoniaeth Bwyleg y cyfnod, a fe'i ystyrir yn glasur o lenyddiaeth y Pwyliaid.

Rhyw flwyddyn wedi cyhoeddi "Maria", bu farw Antoni Malczewski mewn tlodi yn Warsaw yn 33 oed, o achos anhysbys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Antoni Malczewski. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mawrth 2022.