Antigonos I Monophthalmos
| Antigonos I Monophthalmos | |
|---|---|
| Ganwyd | 382 CC Elimiotis |
| Bu farw | Ipsos |
| Dinasyddiaeth | Macedon |
| Galwedigaeth | arweinydd milwrol, person milwrol |
| Swydd | strategos |
| Tad | Philippus |
| Mam | mother of Antigonus Monophtalmus |
| Priod | Stratonice |
| Partner | Demo |
| Plant | Demetrius Poliorcetes, Philip |
| Perthnasau | Telesphorus |
| Llinach | Antigonid dynasty |
Cadfridog Macedonaidd dan Alecsander Fawr ac ddiweddarach sylfaenydd brenhinllin yr Antigoniaid oedd Antigonos I Monophthalmos (Hen Roeg: Ἀντίγονος ὁ Μονόφθαλμος neu Μονοφθαλμός, "Antigonos yr Unllygeidiog") (382 CC - 301 CC). Roedd yn fab i Philip o Elimeia. Apwyntiwyd ef yn rhaglaw Phrygia Fwyaf yn 333 CC, ac wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, derbyniodd Pamphylia a Lycia gan Perdiccas, oedd yng ngofal yr ymerodraeth. Daeth Perdiccas yn elyn iddo pan wrthododd gynorthwyo Eumenes i feddiannu'r rhannau o'r ymerodraeth oedd wedi eu rhoi iddo ef, a bu raid i Antigonos a'i fab Demetrius ffoi i Wlad Groeg, lle'r enillodd ffafr Antipater, rheolwr Macedonia.
Cymerodd ran amlwg yn y brwydro rhwng y Diadochi, olynwyr Alecsander, a ddilynodd, ac enillodd ddwy frwydr fawr yn erbyn Eumenes, yn Paraitacene yn 317 CC a Gabiene yn 316 CC. Llwyddodd i gipio trysorau Susa a meddiannodd Babylon, gan orfodi Seleucus I Nicator i ffoi. Wedi llawer o frwydro, gwnaed heddwch yn 311 CC, gydag Antigonos yn cael rheolaeth ar Asia Leiaf a Syria, ond yn fuan bu ymladd eto.
Llwyddodd Demetrius i orchfygu llynges Ptolemi I Soter ym Mrwydr Salamis ger arfordir Cyprus yn 306 CC, gan gipio'r ynys. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin, gan wneud Demetrius yn gyd-frenin. Ymosododd ar yr Aifft, ond llwyddiodd Ptolemi i amddiffyn y ffin yn ei erbyn.
Gorchfygwyd Antigonos a Demetrius gan fyddinoedd unedig Seleucus a Lysimachus ym Mrwydr Ipsus yn 301 CC. Lladdwyd Antigonos, oedd yn 80 oed, yn y frwydr, a rhannwyd ei deyrnas rhwng Lysimachus a Seleucus. Llwyddodd Demetrius i'w wneud ei hun yn frenin Macedonia yn ddiweddarach.