Anthony Llewellyn
Anthony Llewellyn | |
---|---|
Ganwyd | 22 Ebrill 1933 Caerdydd |
Bu farw | 2 Gorffennaf 2013 |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | fforiwr, gofodwr |
Cyflogwr |
|
Gwyddonydd o'r Unol Daleithiau a anwyd yng Nghymru oedd John Anthony Llewellyn (22 Ebrill 1933 – 2 Gorffennaf 2013). Bu'n gyn-ymgeisydd gofodwr gyda NASA.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Llewellyn yng Nghaerdydd, a graddiodd o Ysgol Uwchradd Caerdydd yn 1949. Derbyniodd ei radd BSc o Goleg y Brifysgol, Caerdydd yn 1955 ac aeth ymlaen i ennill ei radd PhD mewn cemeg yn 1958. Priododd Valerie Mya Davies-Jones, a cawsant dri o blant. [2]
Ôl-addysg
[golygu | golygu cod]Wedi dyfarnu ei ddoethuriaeth symudodd Llewellyn i Ottawa, Ontario, Canada, a gweithiodd fel cymrawd ôl-ddoethurol yn y Cyngor Ymchwil Cenedlaethol. Yn 1960, aeth i Brifysgol Talaith Florida fel cydymaith ymchwil yn yr Adran Gemeg ac wedi hynny fe'i penodwyd yn Athro Cynorthwyol. Ym 1964, fe'i penodwyd ar y cyd yn athro cyswllt yn yr Ysgol Gwyddor Peirianneg a'r Adran Cemeg.[2]
Deifio
[golygu | golygu cod]Ar ôl cael ei ddysgu i ddeifio gan y nofiwr tanddwr Jacques Cousteau, gwasanaethodd Llewellyn fel cyfarwyddwr hyfforddi ar gyfer rhaglen hyfforddi deifwyr Prifysgol Talaith Florida.[1] Dyma oedd un o'r rhaglenni ardystio sgwba-blymio cyntaf yn yr Unol Daleithiau. Ymhlith y rhai a ardystiodd oedd E. Lee Spence, 16 oed, a dderbyniodd ei dystysgrif ar 10 Gorffennaf 1964. Aeth Spence ymlaen i fod yn un o arloeswyr archaeoleg danddwr. Drwy ei waith deifio roedd gan Llewellyn brofiad o'r teimlad o ddiffyg pwysau, a baratowyd ef ar gyfer ei hyfforddiant diweddarach fel gofodwr.
NASA
[golygu | golygu cod]Dewiswyd Llewellyn yn wyddonydd-gofodwr gan NASA ym mis Awst 1967.[3] Cymerodd ran mewn hyfforddiant hedfan fel rhan o NASA Astronaut Group 6; fodd bynnag, gadawodd yr ysgol hedfan ac ymddiswyddodd o NASA ym mis Medi 1968.[2] Roedd angen i Llewellyn ddysgu sut i hedfan awyrennau jet, ond nid oedd yn gallu hedfan y jet gyda'r caban peilot wedi'i dduo allan.[1]
Profiad ôl-NASA
[golygu | golygu cod]Tra oedd gydag Adran Peirianneg Gemegol Prifysgol De Florida, gwasanaethodd Llewellyn hefyd fel Cyfarwyddwr adran gyfrifiadura'r Coleg Peirianneg, ac yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Cyfrifiadura Academaidd y Brifysgol, lle bu'n helpu i gychwyn rhaglenni USF mewn Cyfrifiadura Perfformiad Uchel a dysgu o bell ac electronig.
Yn 2007, ymddeolodd o'i swydd cyfarwyddwr a gwasanaethodd fel Athro Emeritws yn yr Adran Peirianneg Cemegol a Biofeddygol hyd ei farwolaeth. Roedd ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys datblygu dulliau mesur synhwyrydd ar sail rhwystriant ac offeryniaeth ar gyfer monitro meinweoedd invivo ar ôl cymhwyso protocol dosbarthu plasmid trwy faes trydanol (IEEE Transactions on Dielectrics and Electrical Insulation 16(5): 1348–1355.
Cyflwynwyd ei waith cyfredol yng Nghymdeithas America ar gyfer Therapi Genynnau a Chelloedd 2010 a bu'n arweinydd sesiwn gwahoddedig yng Nghynhadledd Gordon mewn Bioelectrocemeg 2010.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Llewellyn ar 2 Gorffennaf 2013 ar ôl dioddef strôc.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Nathan Bevan (14 July 2013). "Wales' heroic would-be moon-shot astronaut dies, aged 80". Wales Online. Cyrchwyd 15 July 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Anthony Llewellyn NASA Biography" (PDF). NASA. September 1968. Cyrchwyd 4 April 2021.
- ↑ "Professor at FSU Named Astronaut". Orlando Evening Star. Orlando, Florida. 9 August 1967. t. 34 – drwy Newspapers.com.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]Mae gyrfa Llewellyn yn cael ei ddogfennu yn y llyfr "NASA's Scientist-Astronauts" gan David Shayler a Colin Burgess.