Antalya (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad talaith Antalya yn Nhwrci.

Lleolir talaith Antalya yn ne-orllewin Twrci rhwng Mynyddoedd Taurus a Môr y Canoldir, ac fe ffurfir rhan o ranbarth Akdeniz Bölgesi (Rhanbarth Môr y Canoldir). Mae ganddi boblogaeth o 1,919,719 (2009), a'i phrifddinas yw dinas Antalya.

Mae talaith Antalya yn cyfateb i diroedd hynafol Pamphylia yn y dwyrain a Lycia yn y gorllewin. Mae ganddi arfordir o 408 milltir (657 km) llawn traethau, porthladdoedd a dinasoedd hynafol, gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd yn Xanthos. Talaith Antalya ddangosodd y cynydd poblogaeth uchaf yn Nhwrci yn ystod y 90au, gyda chynydd blynyddol o 4.17% yn ystod y cyfnod hwn, o gymharu a'r cymedr cenedlaethol o 1.83%. Achosir hyn gan gynydd uchel mewn trefoli, sydd yn cael ei achosi ran fwyaf gan dwristiaeth a'r sector gwasanaeth ar hyd yr arfordir.


Flag Turkey template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.