Annie Oakley

Oddi ar Wicipedia
Annie Oakley
FfugenwAnnie Oakley Edit this on Wikidata
GanwydPhoebe Ann Mosey Edit this on Wikidata
13 Awst 1860 Edit this on Wikidata
Ohio Edit this on Wikidata
Bu farw3 Tachwedd 1926 Edit this on Wikidata
Greenville, Ohio Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethperfformiwr mewn syrcas, perfformiwr stỳnt Edit this on Wikidata
PriodFrank E. Butler Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Oriel yr Anfarwolion Ohio, Neuadd Enwogion New Jersey Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Chwimsaethwraig (Saesneg: sharpshooter) o'r Unol Daleithiau a serennodd yn Sioe Gorllewin Gwyllt Buffalo Bill Cody oedd Annie Oakley (ganwyd Phoebe Ann Moses; 13 Awst 18603 Tachwedd 1926).

Daeth yn heliwr medrus yn blentyn i ofalu am anghenion ei theulu tlawd yng ngorllewin Ohio. Yn 15 oed, enillodd gystadleuaeth saethu yn erbyn y saethwr profiadol Frank E. Butler, a briododd yn ddiweddarach. Ymunodd y pâr â sioe Buffalo Bill ym 1885 a pherfformio yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop. Roedd cynulleidfaoedd wedi'u syfrdanu o'i gweld yn saethu sigarét o wefusau ei gŵr neu'n hollti cerdyn chwarae o'r ymyl ar 30 cam. Ffurfiodd gyfeillgarwch agos â Tȟatȟáŋka Íyotake (Sitting Bull), chyn-bennaeth llwyth y Sioux, tra roedd y ddau yn gweithio gyda Buffalo Bill.

Ar ôl damwain rheilffordd ddifrifol ym 1901, bu'n rhaid iddi fabwysiadu ffordd dawelach o fyw, ac aeth ar daith mewn drama am ei gyrfa. Rhoddodd hefyd wersi i fenywod mewn saethu a hunanamddiffyn.

Wedi ei marwolaeth, addaswyd ei stori ar gyfer sioeau cerdd llwyfan a ffilmiau, gan gynnwys Annie Get Your Gun.