Anne Hidalgo
| Anne Hidalgo | |
|---|---|
| Ganwyd | Ana María Hidalgo Aleu 19 Mehefin 1959 San Fernando |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, Personnel of direct services to individuals |
| Swydd | member of the regional council of Île-de-France, 2016-2019 UCLG Co-President, Councillor of Paris, Maer Paris, Councillor of Metropolis of Greater Paris, cadeirydd, Councillor of Paris, Maer Paris |
| Taldra | 1.63 metr |
| Plaid Wleidyddol | Y Blaid Sosialaidd |
| Priod | Jean-Marc Germain, Philippe Jantet |
| Partner | Jean-Marc Germain |
| Plant | Matthieu Jantet-Hidalgo, Elsa Jantet-Hidalgo, Arthur Germain |
| Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur, Gran Cruz de la Orden del Mérito Civil, Medal Andalucía, Officier de l'ordre national du Mérite, Marchog Urdd Cenedlaethol y Llew, The Order of the Rising Sun, Gold Rays with Neck Ribbon, prix de la Carpette anglaise, Urdd Isabel la Católica, Urdd y seren Pegwn, Urdd Teilyngdod Dinesig, Order of the Badge of Honour, Urdd Teilyngdod i Lithuania, Officier de la Légion d'honneur, Silver Olympic Order, Urdd y Dywysoges Olga, 3ydd Dosbarth |
| Gwefan | https://www.paris.fr/pages/anne-hidalgo-2252 |
| llofnod | |
Gwleidydd o Sbaen a Ffrainc yw Ana María "Anne" Hidalgo Aleu (ganwyd 19 Mehefin 1959) sy'n gwasanaethu fel Maer Paris ers 2014. Hi yw'r fenyw gyntaf i fod yn Faer Paris. Mae hi'n aelod o'r Blaid Sosialaidd (PS).
Ganwyd Hidalgo yn San Fernando, ger Cádiz, yn Andalucía, Sbaen, yn wyres i Sosialydd a ddaeth yn ffoadur i Ffrainc ar ôl diwedd Rhyfel Cartref Sbaen gyda'i deulu. Dychwelodd ei nain a'i thaid i Sbaen beth amser yn ddiweddarach. Cafodd Antoine Hidalgo, tad Anne, ei fagu gan rieni ei fam. Ymsefydlodd Antoine a'i wraig Maria yn Lyon ym 1961, gyda'u dwy ferch.
Cafodd Anne Hidalgo ei magu yn Vaise, 9fed arrondissement Lyon,[1] gan siarad Sbaeneg gyda'i rhieni a Ffrangeg gyda'i chwaer.[2] Mae ei chwaer hynaf, Marie, yn rheoli cwmni yn Los Angeles, UDA. Derbyniodd Anne ei haddysg ym Mhrifysgol Jean Moulin Lyon.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Adam Thomson (14 Mawrth 2014), Fight for Paris mayor boils down to two women Financial Times.
- ↑ "Una gaditana en la alcaldía de París". El País (yn Sbaeneg). 1 Ebrill 2001. Cyrchwyd 2010-05-19.