Anna Arqué

Oddi ar Wicipedia
Anna Arqué
Anna Arqué yn 2019
Ganwyd8 Mai 1972 Edit this on Wikidata
Lleida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Catalwnia Catalwnia
Alma mater
  • Prifysgol Lleida Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata

Mae Anna Arqué (ganwyd 8 Mai 1972) yn ymgynghorydd, yn weithredwr dros annibyniaeth ac yn wleidydd Catalan.[1] Yn ogystal â Chatalwneg, Sbaeneg, Saesneg ac Almaeneg, mae hefyd yn siarad Portiwgaleg ac Eidaleg ac mae wedi byw mewn sawl gwlad. Mae'n Is-Reithor Prifysgol yr Haf, Catalwnia. Mae'n un o sefydlwyr ICEC, y mudiad rhyngwladol dros hyrwyddo hunanlywodraeth.

Astudiodd fusnes ym Mhrifysgol Lleida a phan adawodd, aeth i fyw i Lisbon, lle bu'n gweithio fel model. Yn ddiweddarach ymsefydlodd yn Llundain lle bu'n gweithio fel ymgynghorydd mewn strategaethau cyfathrebu, gan weithio i sawl cwmni.[2]

Yn 2009, bu'n ymwneud â'r llwyfan annibynnol 'Deg Mil ym Mrwsel'. Yn fuan wedyn, fe'i hetholwyd yn gomisiynydd y Pwyllgor Cyfathrebu Rhyngwladol a Chydlynydd Cenedlaethol yr Ymgynghoriadau (Internacional i de Comunicació de la Coordinadora Nacional de les Consultes). Gadawodd ei swydd pan oedd yn rhan o'r rhestr etholiadol gyda Solidaritat Catalana per la Independència yn etholiadau 2010, pan na chafodd ei hethol.[3] Mae hefyd yn siaradwr dros Gatalwnia ar Gomisiwn Rhyngwladol Dinasyddion Ewropeaidd (ICEC) ac yn llefarydd i Gymdeithas Addysg Gynradd Catalonia.[4][5]

Barn[golygu | golygu cod]

Mewn cyfweliad gyda'r wefan Fasgeg Naziogintza, dywed i Llywodraeth Catalwnia oedi, wedi iddynt ddatgan "Datganiad o Sofraniaeth a'r Hawl i bobl Catalwnia Benderfynu eu Dyfodol eu Hunain" ar 23 Ionawr 2013. Yn ei barn hi, ofn oedd yn gyfrifol am hyn, oherwydd bygythiad Llywodraeth Sbaen. Llefarodd Llywodraeth Catalwnia dros y bol, yn hytrach na'r ffordd arall, meddai. Oherwydd i Sbaen synhwyro ofn, aethpwyd ati i erlyn prif swyddogion y Llywodraeth.[6] Ei chyngor i genedlaetholwyr Basgaidd yw na ddylid oedi, dangos ofn nac ildio yn eu brwydr dros annibyniaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Anna Arqué, el nucli irradiador". Cyrchwyd 2018-12-22.
  2. "ENTREVISTA: ANNA ARQUÉ". Cyrchwyd 2018-12-22.
  3. "Bertran i Arqué deixen la Coordinadora de les Consultes | NacióDigital". Cyrchwyd 2018-12-22. Unknown parameter |cognom= ignored (help); Unknown parameter |llengua= ignored (help)
  4. "www.icec.ngo". Cyrchwyd 2018-12-22.
  5. "Anna Arqué: 'Cap Estat ens va reconèixer públicament perquè el Govern no va assumir la declaració d'independència'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-22. Cyrchwyd 2018-12-22. Unknown parameter |data= ignored (|date= suggested) (help); Unknown parameter |llengua= ignored (help)
  6. naziogintza.eus; ANNA ARQUÉ, THE POWER OF CATALONIA’S RESILIENCE: “THE GOVERNMENT OF CATALONIA MISMANAGED THE VICTORY OF 1st OCTOBER 2017”; adalwyd 16 Mai 2019.