Ann Romney
Ann Romney | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Ann Lois Davies ![]() 16 Ebrill 1949 ![]() Bloomfield Hills, Michigan ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gwraig tŷ ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol ![]() |
Tad | Edward Roderick Davies ![]() |
Priod | Mitt Romney ![]() |
Plant | Tagg Romney ![]() |
Americanes sy'n wraig i'r dyn busnes a'r gwleidydd Mitt Romney yw Ann Lois Romney (née Davies) (ganwyd 16 Ebrill 1949). Hi oedd Prif Foneddiges Massachusetts o 2003 hyd 2007, pan oedd ei gŵr yn Llywodraethwr y dalaith honno.
Dyn busnes Cymreig o Gaerau ger Pen-y-bont ar Ogwr oedd ei thad, Edward R. Davies, ac ymfudodd i Bloomfield Hills, Michigan. Roedd hefyd yn faer y ddinas honno.
Yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blaid Weriniaethol yn Tampa, Fflorida, yn Awst 2012 anerchodd Ann Romney y gynhadledd wedi i'w gŵr gael ei enwebu fel ymgeisydd y Gweriniaethwyr am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Nantyffyllon yn cael sylw yn enwebiad Romney. Golwg360 (29 Awst 2012). Adalwyd ar 2 Medi 2012.