Neidio i'r cynnwys

Anita Desai

Oddi ar Wicipedia
Anita Desai
Ganwyd24 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata
Mussoorie Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner India India
Alma mater
  • Prifysgol Delhi
  • Miranda House Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, academydd, awdur storiau byrion, athro cadeiriol, awdur Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Mount Holyoke
  • Prifysgol Smith, Massachusetts
  • Sefydliad Technoleg Massachusetts Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFire on the Mountain Edit this on Wikidata
PlantKiran Desai Edit this on Wikidata
Gwobr/auPadma Bhushan in literature & education, Gwobr Padma Shri mewn Llenyddiaeth ac Addysg, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Sahitya Akademi, Gwobr Goffa Winifred Holtby, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant, Gradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures Indiaidd yw Anita Desai (ganwyd 24 Mehefin 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, nofelydd, academydd ac awdur storiau byrion. Fel awdur mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Booker deirgwaith. Derbyniodd Wobr Sahitya Akademi yn 1978 am ei nofel Y Tân ar y Mynydd, o 'Akademi Sahitya', Academi Llythyrau Genedlaethol India. Enillodd wobr y 'Guardian Prydeinig' am ei nofel Y Pentref ar Lan y Môr.[1]

Fe'i ganed yn Mussoorie, India ar 24 Mehefin 1937 mewn cartref pedair-ieithog: yr Almaeneg, Bengali, Wrdw, Hindi a Saesneg y tu allan i'r cartref. Almaenes oedd ei mam, Toni Nime, a dyn busnes oedd ei thad. Nid ymwelodd â'r Almaen tan oedd yn oedolyn. Dechreuodd ysgrifennu Saesneg yn saith oed a chyhoeddodd ei stori gyntaf yn naw mlwydd oed.[2][3][4][5][6]

Bu'n fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Mary yn Delhi a derbyniodd ei B.A. mewn llenyddiaeth Saesneg ym 1957 o Brifysgol Delhi. Yn 1958 priododd Ashvin Desai, cyfarwyddwr cwmni meddalwedd cyfrifiadurol ac awdur y llyfr Between Eternities: Ideas on Life a The Cosmos. Mae ganddynt bedwar o blant, gan gynnwys y nofelydd arobryn Gwobr Booker, Kiran Desai. Aethant â'u plant i Thul (ger Alibagh) am wyliau ar benwythnosau, lle gosododd Desai ei nofel The Village by the Sea. [7][8][9]

Yn 2019 roedd yn parhau yn ei swydd fel athro'r dyniaethau yn y Massachusetts Institute of Technology.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.

Yn 1993, addaswyd ei nofel In Custody gan Merchant Ivory Productions i'r Saesneg, dan gyfarwyddyd Ismail Merchant, gyda sgript y ffilm gan Shahrukh Husain. Enillodd y ffilm Fedal Aur 1994 ar gyfer yr actorion: Shashi Kapoor, Shabana Azmi ac Om Puri.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Padma Bhushan in literature & education (2014), Gwobr Padma Shri mewn Llenyddiaeth ac Addysg (1989), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol (1978), Gwobr Sahitya Akademi (1978), Gwobr Goffa Winifred Holtby (1977), Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant (1983), Gradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds[10][11][12][13][14][15] .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Sahitya Akademi Award – English (Official listings)". Sahitya Akademi. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mawrth 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. ↑ Cyffredinol: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 120247880, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015
  3. ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_86. retrieved: 31 Gorffennaf 2022.
  4. ↑ Rhyw: Bibliothèque nationale de France (yn fr), ffeil awdurdod y BnF, dynodwr BnF 120247880, Wikidata Q19938912, https://data.bnf.fr/, adalwyd 10 Hydref 2015
  5. ↑ Dyddiad geni: (yn en) Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm0220809, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/, adalwyd 21 Gorffennaf 2015 "Anita Desai". SNAC. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Desai". Encyclopædia Britannica Online. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Desai". FemBio database. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Desai". Brockhaus Enzyklopädie. "Anita Desai". The Fine Art Archive. Barbara Fister (1995), Third World Women's Literatures, Wikidata Q136529028
  6. ↑ Man geni: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 281, OL2727330W, Wikidata Q18328141
  7. ↑ Alma mater: Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 281, OL2727330W, Wikidata Q18328141
  8. ↑ Galwedigaeth: abART, dynodwr abART (person) 141281, Wikidata Q107456632, http://isabart.org, adalwyd 1 Ebrill 2021 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 281, OL2727330W, Wikidata Q18328141 Virginia Blain; Isobel Grundy; Patricia Clements (1990) (yn en), The Feminist Companion to Literature in English, pp. 281, OL2727330W, Wikidata Q18328141 external ID: n50001608. external ID: n50001608.
  9. ↑ Anrhydeddau: archive URL: https://web.archive.org/save/http://www.pib.nic.in/newsite/PrintRelease.aspx?relid=102735. https://www.webcitation.org/6U68ulwpb?url=http://mha.nic.in/sites/upload_files/mha/files/LST-PDAWD-2013.pdf. https://rsliterature.org/fellows/anita-desai/. retrieved: 6 Gorffennaf 2025. http://sahitya-akademi.gov.in/awards/akademi%20samman_suchi.jsp#ENGLISH. retrieved: 25 Chwefror 2019. y Cyngor Prydeinig, British Council writer ID anita-desai, Wikidata Q45433, https://www.britishcouncil.org, adalwyd 17 Mehefin 2016 external ID: books/2001/mar/12/guardianchildrensfictionprize2001.guardianchildrensfictionprize.
  10. ↑ archive URL: https://web.archive.org/save/http://www.pib.nic.in/newsite/PrintRelease.aspx?relid=102735.
  11. ↑ https://www.webcitation.org/6U68ulwpb?url=http://mha.nic.in/sites/upload_files/mha/files/LST-PDAWD-2013.pdf.
  12. ↑ https://rsliterature.org/fellows/anita-desai/. retrieved: 6 Gorffennaf 2025.
  13. ↑ http://sahitya-akademi.gov.in/awards/akademi%20samman_suchi.jsp#ENGLISH. retrieved: 25 Chwefror 2019.
  14. ↑ y Cyngor Prydeinig, British Council writer ID anita-desai, Wikidata Q45433, https://www.britishcouncil.org, adalwyd 17 Mehefin 2016
  15. ↑ external ID: books/2001/mar/12/guardianchildrensfictionprize2001.guardianchildrensfictionprize.