Ammon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ammon
Teyrnasoedd oddeutu Ammon 9g CC.svg
Math gwlad, ar un adeg Edit this on Wikidata
Prifddinas Amman Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen
Crefydd/Enwad Moloch Edit this on Wikidata

Cenedl neu deyrnas hynafol Semitaidd eu hiaith oedd Ammon i'r dwyrain o'r Iorddonen, rhwng dyffrynnoedd Arnon a Jabbok, a leolir yng Ngwlad Iorddonen heddiw.[1][2]

Prif ddinas y wlad oedd Rabbah neu Rabbath Ammon, ac yma y saif dinas fodern Amman, prifddinas Gwlad Iorddonen. Mae Milcom a Molech (a all fod yr un) yn cael eu henwi yn y Beibl Hebraeg fel duwiau Ammon, felly gelwir pobl y deyrnas hon yn "Blant Ammon", "Amonitiaid" neu "Amoniaid".[3][4]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gelwir y tirigaeth ehangach, lle lleolir Ammon yn "Llwyfandiroedd Traws-Iorddonen Ganol", ardal a wladychwyd gan yr Amoniaid o ddiwedd yr ail fileniwm CC hyd at (o leiaf) yr ail ganrif ÔC. Llwyddodd yr Amoniaid i gadw'n annibynnol oddi wrth Ymerodraeth Newydd Assyria drwy dalu gwrogaeth i frenin yr Asyriaid, ond llyncwyd sawl brenhiniaeth arall gan yr Asyriaid gan iddyn wrthod talu gwrogaeth, gan greu teyrnas enfawr Assyria. Nodir ar fonolithau Kurkh i Baasha ben Ruhubi, brenin yr Amoniaid ymladd ochr-yn-ochr â Ahab (o gynghrair rhwng Israel a Syria) yn erbyn Shalmaneser III ym mrwydr Qarqar yn 853 BC, fwy na thebyg gan gynrychioli Hadadezer, brenin Aramag Damascus. Yn 734 BC roedd yr Ammonit Sanipu yn frenin a gynrychiolodd (neu'n ddeiliad) Tiglath-Pileser III.[5]

Adeiladwyd Qasr Al Adb gan lywodraethwr Ammon yn 200 BC

Dengys archeoleg a hanes yn dangos bod Ammon wedi ffynnu yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Newydd Assyria. Mae hyn yn groes i'r farn glasurol, i Draws-Iorddonen naill ai gael ei ddinistrio gan Nebuchadnezzar II, neu wedi dioddef dirywiad cyflym yn dilyn dinistr Jwda gan y brenin hwnnw. Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod Ammon wedi llewyrchu o'r cyfnod Neo-Babylonian i'r cyfnod Persiaidd.[6]

Fodd bynnag, ychydig o sôn a geir am yr Amoniaid drwy'r cyfnodau Persiaidd a'r Oes Helenistaidd cynnar, ond ymddengys yr Amoniaid yn ystod cyfnod y Macabeiaid (Hebraeg: "Maqabim"). Gwnaeth yr Amoniaid, gyda rhai o'r llwythau cyfagos, eu gorau glas i wrthsefyll yr Iddewon o dan Judas Maccabaeus.[5][7]

Mae cofnod olaf o'r Amoniaid i'w gael yn yr 2il ganrif CC yn Nialog Iustinus Martyr gyda Trypho lle mae'n cadarnhau fod y genedl yn dal i fodoli.[5][8]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "RINAP (Royal Inscriptions of the Neo-Assyrian Period Project)". http://oracc.museum.upenn.edu/rinap/rinap4/Q003277/html.
  2. Taagepera, Rein (1979). "Size and Duration of Empires: Growth-Decline Curves, 600 CC hyd at 600 OC". Social Science History 3 (3/4): 121. doi:10.2307/1170959. JSTOR 1170959.
  3. A Companion to Assyria : page 192
  4. The Cambridge Ancient History "The fall of Assyria (635–609 B.C.)"
  5. 5.0 5.1 5.2  Mae un neu ragor o'r brawddegau yn cynnwys testun sydd bellach yn y parth cyhoeddusChisholm, Hugh, ed. (1911). "Ammonites". Encyclopædia Britannica 1 (11th ed.). Cambridge University Press. pp. 863–864. 
  6. Barstad, Hans M (18 Chwefror 2012). "The City State of Jerusalem in the Neo-Babylonian Empire: Evidence from the Surrounding States". In John J. Ahn; Jill Middlemas. By the Irrigation Canals of Babylon: Approaches to the Study of the Exile. Bloomsbury Publishing. pp. 42–44. ISBN 978-0-567-19775-7. 
  7. 1 Maccabees 5:6; cf. Josephus Jewish Antiquities xii. 8. 1.
  8. St. Justin Martyr. "Dialogue with Trypho". Peter Kirby. http://www.earlychristianwritings.com/text/justinmartyr-dialoguetrypho.html. Adalwyd 27 Mehefin 2016.