Ambacourt
Ambacourt | |
---|---|
![]() | |
Gwlad | Ffrainc |
Rhanbarth | Alsace-Champagne-Ardenne-Lorraine |
Département | Vosges |
Arrondissement | Neufchâteau |
Canton | Mirecourt |
Intercommunality | Pays de Mirecourt |
Arwynebedd1 | 6.76 km2 (2.61 mi sg) |
Poblogaeth (2014)2 | 309 |
• Dwysedd | 46/km2 (120/mi sg) |
Parth amser | CET (UTC+1) |
• Summer (DST) | CEST (UTC+2) |
INSEE/Postal code | 88006 / 88500 |
Uchder |
252–357 m (827–1,171 ft) (cyfart. 260 m or 850 ft) |
1 Data o Gofrestr Tir Ffrainc, sy'n hepgor llynnoedd, pyllau, rhewlifau > 1 km² (0.386 sq mi neu 247 erw) ac aberoedd yr afonydd. |
Mae Ambacourt yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc[1]
Cynnwys
Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r pentref wedi ei leoli ym mhen gogleddol département Vosges tua 4 km o dref Mirecourt. Mae’n sefyll ar ochr y bryn ar lan chwith yr afon Madon. Mae gwaelod y dref ar uchder o 259 metr tra bod ei phen mwy na 280 metr. Mae'r safle uchel yn caniatáu i ymwelwyr ei weld o bell. Mae afon Madon yn enwog fel cartref i'r afanc Ewropeaidd
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae hanes Ambacourt yn mynd yn ôl i'r cyfnod cyn hanesyddol. Mae presenoldeb dynol yn cael ei ardystio gan ddolmenni sy’n dyddio o 1000 hyd at 500 mlynedd CC. Mae yna rywfaint o dystiolaeth bod y Rhufeiniaid wedi bod yn bresennol yn yr ardal.
Mae’r cyfeiriad cyntaf at enw’r dref (wedi ei sillafu yn Ymbercurte) yn dyddio o fwla Pabyddol gan y Pab Calistus II, ym 1119. Mae’r Pab yn cadarnhau bod y pentref yn eiddo i Abaty Chaumousey.
Ym 1390 ymladdwyd brwydr ger y pentref rhwng arglwyddi Bwrgwyn a Dug Lorraine.
Cafodd Ambacourt ei ddifrod yn arw yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain a ymladdwyd rhwng gwladwriaethau Protestannaidd a Chatholig yr Ymerodraeth Rufeinig Sanctaidd rhwng 1618 a 1648; erbyn 1638 y melinydd oedd unig breswylydd y pentref.
Safleoedd a Henebion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Nifer o hen adeiladau o’r 19g gan gynnwys tai Lorraine traddodiadol, hen dai golchi a ffynhonnau.
- Mae allor eglwys y plwyf wedi ei gofrestru fel heneb gan wladwriaeth Ffrainc ers 1913.[2]
Pobl enwog o Ambacourt[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ganwyd François Chopin, taid tadol y cyfansoddwr Frederic Chopin, yn Ambacourt ym 1738[3]
Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
|