Alopwrinol
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | cyfansoddyn cemegol |
| Màs | 136.038511 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₅h₄n₄o |
| Enw WHO | Allopurinol |
| Clefydau i'w trin | Gout attack, hyperuricemia, gowt, gowt |
| Dynodwyr | |
| SMILES | C1=c2c(=nc=nc2=o)nn1 |
| Freebase | /M/01ls3h |
| CAS | 315-30-0 |
| PubChem CID | 2094, 135401907 |
| ChEBI | 40279 |
| InChI | Inchi=1s/c5h4n4o/c10-5-3-1-8-9-4(3)6-2-7-5/h1-2h,(h2,6,7,8,9,10) |
| ChEMBL | Chembl1467 |
| ChemSpider | 2010 |
| UNII | 63cz7gjn5i |
| ATC | M04aa01 |
| KEGG | D00224 |
| Llawlyfr Ligand | 6795 |
| Rhif EC | 206-250-9 |
| Cofrestr Beilstein | 608611 |
| Drugbank | Db00437 |
| ECHA | 100.005.684 |
| HMDB | Hmdb0014581 |
| RxNorm CUI | 519 |
| UMLS CUI | C0002144 |
| NDF-RT | N0000146247 |
| IEDB Epitope | 226980 |
Mae aAlopwrinol, a werthir oddi tan yr enw masnachol Zyloprim ac eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i leihau lefelau uchel o asid wrig yn y gwaed.[1]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Fe'i defnyddir yn benodol er mwyn atal gowt, mathau penodol o gerrig yn yr arennau, ac ar gyfer lleihau lefelau uchel o asid wrig wedi triniaeth cemotherapi.[2] Gellir ei gymryd drwy'r geg neu ei chwistrellu i mewn i wythïen.[3]
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Pan gymerir y feddyginiaeth drwy'r geg y mae ei sgileffeithiau cyffredin yn cynnwys brech ac ymdeimlad o gosi. Wrth ei ddefnyddio ar ffurf pigiad, gall arwain at sgil effeithiau megis chwydu a phroblemau ynghylch yr arennau. Er yn hanesyddol na argymhellwyd y feddyginiaeth, mae dechrau rhaglen alopwrinol yn ystod ymosodiad o gowt yn ymddangos yn effeithiol.[4] Dylai'r rheini sydd eisoes ar y feddyginiaeth barhau i'w ddefnyddio. Er ni cheir awgrymiadau bod y fath driniaeth yn niweidiol yn ystod beichiogrwydd, mae'r ymchwil ynghylch y maes yn anfoddhaol.[5] Mae alopwrinol ymhlith y teulu o feddyginiaethau ataliol santhîn ocsidas.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cymeradwywyd Alopwrinol ar gyfer defnydd meddygol yn yr Unol Daleithiau ym 1966. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.[6] Gellir cael mynediad i alopwrinol fel meddyginiaeth generig. Ei gost gyfanwerthol fisol yn y byd datblygol yw oddeutu 0.81 i 3.42 o ddoleri.[7] Yn yr Unol Daleithiau, mae mis o driniaeth wedi'i brisio'n llai na 25 o ddoleri.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pacher, P.; Nivorozhkin, A; Szabó, C (2006). "Therapeutic Effects of Xanthine Oxidase Inhibitors: Renaissance Half a Century after the Discovery of Allopurinol". Pharmacological Reviews 58 (1): 87–114. doi:10.1124/pr.58.1.6. PMC 2233605. PMID 16507884. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2233605.
- ↑ WHO Model Formulary 2008 (PDF). World Health Organization. 2009. t. 39. ISBN 9789241547659. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ "Allopurinol". The American Society of Health-System Pharmacists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ Robinson, PC; Stamp, LK (May 2016). "The management of gout: Much has changed.". Australian family physician 45 (5): 299–302. PMID 27166465.
- ↑ "Allopurinol Use During Pregnancy | Drugs.com". www.drugs.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 August 2016. Cyrchwyd 20 December 2016. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. April 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 December 2016. Cyrchwyd 8 December 2016. Unknown parameter
|deadurl=ignored (help) - ↑ "Allopurinol". International Drug Price Indicator Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-22. Cyrchwyd 8 December 2016.
- ↑ Hamilton, Richart (2015). Tarascon Pocket Pharmacopoeia 2015 Deluxe Lab-Coat Edition. Jones & Bartlett Learning. t. 465. ISBN 9781284057560.