Allobroges

Oddi ar Wicipedia
Allobroges
Enghraifft o'r canlynolgrwp ethnig hanesyddol Edit this on Wikidata
MathY Galiaid Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llwythau Celtaidd Gâl yn y ganrif 1af CC

Llwyth Celtaidd yng Ngâl oedd yr Allobroges . Roedd eu tiriogaethau rhwng Afon Rhône a Llyn Genefa, yn yr hyn a ddaeth yn ddiweddarach yn Savoy, Dauphiné, a Vivarais. Eu prifddinas oedd Vienne.

Ceir cyfeiriad atynt gan yr hanesydd Polybius sy'n adrodd iddynt wrthwynebu Hannibal pan geisiodd groesi'r Alpau, ond iddynt fethu ei atal.

Yn 123 CC rhoddodd yr Allobroges loches i Tuto-Motulus, brenin y Salluvii, oedd wedi eu concro gan y Rhufeiniaid. Pan wrthodasant ei drosglwyddi i'r Rhufeiniaid, bu rhyfel. Ar 8 Awst 121 CC, gorchfygwyd hwy gan fyddin Rufeinig dan Quintus Fabius Maximus, a gymerodd yr enw Allobrogicus.

Bu ganddynt ran yn y digwyddiadau yn arwain at gynllwyn Catilina yn 63 CC. Roedd llysgenhadaeth oddi wrth yr Allobroges yn Rhufain, a cheisiodd y cynllwynwyr eu perswadio i ymuno a'r cynllwyn. Fodd bynnag, penderfynodd yr Allobroges hysbysu Cicero, un o'r ggau gonswl ar y pryd, am y cynllwyn.

Yn 61 CC, gwrthryfelodd yr Allobroges dan eu pennaeth Catugnatus, ond gorchfygwyd hwy gan Gaius Pomptinus ger Solonium. Cynorthwyasant Iŵl Cesar yn erbyn llwythau eraill yn ystod ei ymgyrchoedd yng Ngâl. Yn ddiweddarach daeth Vienne yn ddinas bwysig yng Ngâl.