Allez Cymru

Oddi ar Wicipedia
Allez Cymru
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGary Pritchard
CyhoeddwrSt. David's Press
GwladCymru
IaithCymraeg a Saesneg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781902719528
GenreLlyfrau am chwaraeon‎

Cyfrol am bêl-droed gan Gary Pritchard yw Allez Cymru a gyhoeddwyd yn 2016 gan St. David's Press. Man cyhoeddi: Caerdydd, Cymru.[1]

Llyfr darluniadol dwyieithog, llawn lliw yn dathlu'r mis o bêl-droed anhygoel a hwyl aruthrol a gafodd cefnogwyr Cymru yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016 yw Allez Cymru. Llyfr ar gyfer cefnogwyr o 5 i 105 mlwydd oed.

Mae Gary Pritchard wedi bod yn gefnogwr tîm pêl-droed Cymru ar hyd ei oes ac wedi bod i dros 50 o gêmau oddi cartref i gefnogi'’r tîm cenedlaethol. Mae'n gyfranwr cyson i Ar y Marc ar Radio Cymru ac yn arbenigwr ffeithiau pêl-droed adnabyddus, mae Gary yn byw ar Ynys Môn ac yn gynhyrchydd teledu ar raglenni chwaraeon, megis Y Clwb a Sgorio.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.