Alex Morgan
| Alex Morgan | |
|---|---|
| Ganwyd | Alexandra Patricia Morgan 2 Gorffennaf 1989 San Dimas |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | pêl-droediwr, nofelydd, ysgrifennwr, masnachwr |
| Taldra | 170 centimetr |
| Pwysau | 62 cilogram |
| Priod | Servando Carrasco |
| Gwobr/au | Esgid Aur Cynghrair Pêl-droed Cenedlaethol y Merched |
| Gwefan | https://alexmorgansoccer.com/ |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Unol Daleithiau America, Portland Thorns FC, Seattle Sounders Women, Western New York Flash, California Golden Bears, Orlando Pride, West Coast FC, United States women's national under-20 association football team, OL Lyonnes, California Golden Bears women's soccer, Orlando Pride |
| Safle | blaenwr |
| Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Awdures a phêl-droediwr Americanaidd yw Alex Morgan (ganwyd 2 Gorffennaf 1989) sydd hefyd yn nofelydd ac yn awdur. Mae'n flaenwr yn nhîm Orlando Pride sy'n chwarae o fewn y 'Women's Soccer League (NWSL); ers 2018 mae hi'n gyd-gapten ei thim cenedlaethol, gyda Carli Lloyd a Megan Rapinoe. Ceir ffilm ohoni lle mae'n actio hi ei hun, sef 'Alex & Me', a ryddhawyd ym Mehein 2018.
Ganed Alexandra Patricia Morgan Carrasco yn San Dimas, Unol Daleithiau America. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Berkeley.[1][2][3]
Magwraeth
[golygu | golygu cod]
Ei rhieni oedd Pamela S. a Michael T. Morgan ac fe'i ganed yn San Dimas, California, lle magwyd Morgan gyda'i dwy chwaer hŷn, Jeni a Jeri, ym maestref gyfagos Diamond Bar, a leolwyd tua 30 milltir i'r dwyrain o Los Angeles[4][5][6][7][8][9]. Roedd hi'n athletwr aml-chwaraeon a dechreuodd chwarae pêl-droed Americanaidd yn gynnar gydag AYSO; roedd ei thad ymhlith ei hyfforddwyr cyntaf. Fodd bynnag, ni ddechreuodd chwarae pêl-droed clwb tan oedd yn 14 oed pan ymunodd â Cypress Elite. [10]
Mynychodd Morgan Ysgol Uwchradd Diamond Bar, lle cafodd ei dewis deirgwaith ar gyfer yr holl-gynghrair ac fe'i henwyd yn All-American gan Gymdeithas Genedlaethol Hyfforddwyr Pêl-droed America (NSCAA). Yn yr ysgol, roedd yn adnabyddus am ei chyflymder a'i gallu i sbrintio.[11] Morgan played for Olympic Development Program (ODP) regional and state teams as well.[12]

Bu Morgan ym Mhrifysgol UC Berkeley, ble chwaraeodd i'r California Golden Bears o 2007 hyd 2010.[13]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]
Yn fuan ar ôl graddio o Brifysgol Califfornia, Berkeley, lle chwaraeodd dros y California Golden Bears, cafodd Morgan ei drafftio rhif un yn Drafft 2011 y WPS gan y Western New York Flash. Yno, gwnaeth ei gêm broffesiynol gyntaf a helpodd y tîm i ennill pencampwriaeth y gynghrair.
Morgan, a oedd yn 22 ar y pryd, oedd y chwaraewr ieuengaf yn y tîm cenedlaethol yng Nghwpan y Byd Menywod FIFA, 2011 lle enillodd y tîm arian. Yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, sgoriodd y gôl fuddugol yn y 12fed munud o'r gêm gynderfynol yn erbyn Canada. Gorffennodd 2012 gyda 28 gôl a chynorthwyo i sgorio 21 arall, gan ymuno â Mia Hamm fel yr unig fenyw Americanaidd i sgorio 20 gôl a chynorthwyo gyda 20 yn yr un flwyddyn galendr, a'i gwneud y chweched chwaraewr (a'r ieuengaf) i sgorio 20 gôl mewn un flwyddyn. Yn ddiweddarach fe'i henwyd yn Athletwr Benywaidd y Flwyddyn Pêl-droed U.S. ac roedd yn rownd derfynol Chwaraewr y Flwyddyn FIFA.
Yn 2013, ymunodd Morgan, â'r Portland Thorns a helpodd y tîm i ennill teitl y gynghrair y flwyddyn honno. Chwaraeodd Morgan dros y Thorns trwy dymor 2015, ac yna fe'i gwerthwyd i Orlando Pride.
Yn 2015, Morgan oedd chwaraewr pêl-droed menywod benywaidd Americanaidd uchaf ei chyflog, yn ôl Time, yn bennaf oherwydd ei nifer fawr o gytundebau ardystio (endorsement deals). Morgan, ynghyd â Christine Sinclair o Ganada a Steph Catley o Awstralia, oedd y chwaraewyr pêl-droed merched cyntaf i ymddangos ar glawr gemau fideo FIFA, a hynny yn 2015. Ymddangosodd ochr yn ochr â Lionel Messi ar gloriau FIFA 16 a werthwyd yn yr Unol Daleithiau.
Yr awdur
[golygu | golygu cod]Oddi ar y maes, ymunodd Morgan â Simon & Schuster i ysgrifennu cyfres o lyfrau gradd-ganol am bedwar chwaraewr pêl-droed: The Kicks. Daeth y llyfr cyntaf yn y gyfres, sef Saving the Team, yn rhif saith ar restr Gwerthwr Gorau The New York Times ym Mai 2013.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Esgid Aur Cynghrair Pêl-droed Cenedlaethol y Merched (2022) .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhyw: http://www.timbers.com/thornsfc/alex-morgan.
- ↑ Man geni: "Alex Morgan, Christine Sinclair among first seven players added to Portland Thorns FC through allocation process" (yn Saesneg). 11 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2015.
- ↑ Kassouf, Jeff (October 3, 2018). "USWNT notebook: Scheduling, captains and other updates from World Cup qualifying camp". The Equalizer. Cyrchwyd October 4, 2018.
- ↑ "Alex Morgan, Christine Sinclair among first seven players added to Portland Thorns FC through allocation process". Portland Thorns FC. 11 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-30. Cyrchwyd 26 Hydref 2015.
Born: 2 Gorffennaf 1989, in Diamond Bar, Calif., Hometown: Diamond Bar, Calif.
- ↑ "2015 U.S. Women's National Team Media Guide" (PDF). U.S. Soccer Federation. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2 Ebrill 2015. Cyrchwyd March 31, 2015. Unknown parameter
|dead-url=ignored (help) - ↑ "Orlando Pride Acquires Alex Morgan, Kaylyn Kyle and Sarah Hagen". Orlando City Soccer Club. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2015.
- ↑ "Alex Morgan Biography". A&E Biography. 17 Ionawr 2013. Cyrchwyd 26 Ionawr 2013.
- ↑ U.S. Soccer (16 Gorffennaf 2012), Alex Morgan: Daughter of Diamond Bar [Back Home], https://www.youtube.com/watch?v=Xllc0JHuycw, adalwyd May 8, 2019
- ↑ Borden, Sam (22 Gorffennaf 2012). "Rising as Fast as Her Feet Will Take Her". The New York Times. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2013.
- ↑ Galwedigaeth: http://www.timbers.com/thornsfc/alex-morgan.
- ↑ Robledo, Fred (January 17, 2012). "Diamond Bar's Alex Morgan continues to prove she belongs, London Olympics are next". Inside So Cal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-18. Cyrchwyd 6 Ebrill 2014.
- ↑ "Alex Morgan". University of California, Berkeley. Cyrchwyd 16 Mawrth 2014.
- ↑ Arnold, Geoffrey (27 Gorffennaf 2013). "Thorns' Alex Morgan embraces stardom and role as face of women's soccer". Oregon Live. Cyrchwyd November 20, 2013.