Aled Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Aled Gwyn
Ganwyd22 Awst 1940 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, newyddiadurwr, cyfieithydd, bardd Edit this on Wikidata
PriodMenna Gwyn Edit this on Wikidata

Gweinidog, newyddiadurwr, cyfieithydd a phrifardd yw'r Parchedig Aled Gwyn (22 Awst 1940).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganed D Aled Gwyn Jones yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yr ifancaf o Fois Parc Nest. Fe'i magwyd ar y fferm gan ei rieni Gwenni (Gwendolen) a Gwyn Jones.[1] Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Aberystwyth ac Abertawe a graddiodd yn 1963.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd fel gweinidog ifanc yn Eglwys Henllan Amgoed ym mis Medi 1966. Gwasanaethodd hefyd fel cynghorydd sir dros Blaid Cymru. Symudodd i Gapel Soar Maesyrhaf, Castell-nedd yn 1976.[2]

Aeth ymlaen i ddod yn newyddiadurwr gyda BBC Radio Cymru.

Cafodd ei goroni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergele 1995 gan ei frawd John Gwilym Jones a oedd yn Archdderwydd ar y pryd.[3] Ysbrydolwyd ei gerdd "Melodiau" gan y brofedigaeth o golli ei wyres, Gwennan.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod â'r ddarlledwraig Menna Gwyn (1941–2006) hyd ei marwolaeth. Mae ganddynt ddau o blant, Non a Rolant.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Aled Gwyn - Gwestai Penblwydd. BBC Cymru (20 Awst 2017). Adalwyd ar 27 Awst 2020.
  2.  David Edward Pike (15 Ebrill 2017). The Story of Henllan and Her Ministers. Adalwyd ar 27 Awst 2020.
  3. Yr ifanc a ŵyr? Prifeirdd , BBC Cymru Fyw, 6 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 27 Awst 2020.
  4. O gartref i'r Goron a'r Gadair. , Daily Post, 22 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd ar 28 Awst 2020.
  5. Menna Gwyn yn marw , BBC Cymru, 6 Ebrill 2006. Cyrchwyd ar 27 Awst 2020.