Alan Davidson
Gwedd
| Alan Davidson | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | 30 Mawrth 1924 Derry |
| Bu farw | 2 Rhagfyr 2003 Llundain |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | diplomydd, ysgrifennwr, hanesydd |
| Swydd | llysgennad y Deyrnas Unedig i Laos |
| Cyflogwr | |
| Gwobr/au | Gwobr Erasmus |
Hanesydd bwyd a diplomydd o Brydain oedd Alan Eaton Davidson CMG (30 Mawrth 1924 – 2 Rhagfyr 2003). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y golygydd y gyfrol wyddoniadurol The Oxford Companion to Food (1999).
Ganwyd ym 1924 yn Derry, Gogledd Iwerddon. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n swyddog y Llynges Frenhinol. Wedyn, tra'n gweithio fel diplomydd yn y Swyddfa Dramor, treuliodd amser mewn llysgenadaethau o gwmpas y byd (Den Haag, Cairo, Tiwnis, Brwsel a Vientiane) a dechreuodd ymddiddori yn y bwydydd o wahanol ddiwylliannau; felly cychwynodd ar yrfa o ysgrifennu am hanes bwyd.
Enillodd Wobr Erasmus yn 2003.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Former Laureates: Alan Davidson". Praemium Erasmianum Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 26 Mehefin 2017.
