Afon Twrch (Tawe)

Oddi ar Wicipedia
Afon Twrch (Tawe)
Afon Twrch ger Abercraf
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr83 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.763°N 3.781°W Edit this on Wikidata
AberAfon Tawe Edit this on Wikidata
Map

Afon yn ne Cymru sy'n llifo i mewn i afon Tawe yw afon Twrch.

Mae'r afon yn tarddu ar y Mynydd Du, ar lechweddau deheuol Bannau Sir Gâr a Fan Brycheiniog. Mae afon Twrch Fechan yn ymuno â hi, ac mae'n llifo tua'r de-orllewin, tua'r de ac yna tua'r de-ddwyrain am tua 14 km (9 milltir) cyn cyrraedd afon Tawe ger Ystalyfera. Mae'n ffurfio'r ffin rhwng Powys a Sir Gaerfyrddin, yna, ymhellach i'r de, rhwng Powys a Castell-nedd Port Talbot.

Ymhlith yr afonydd sy'n llifo i mewn i afon Twrch mae Nant Gŵys a Nant Llynfell. Mae'r pentrefi ar ei glannau yn cynnwys Ystradowen, Cwm-twrch uchaf, Cwm-twrch isaf a, Gurnos.