Afon Saar
Gwedd
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Saarland |
| Gwlad | Ffrainc, Yr Almaen |
| Cyfesurynnau | 48.5347°N 7.1661°E, 49.7014°N 6.57°E |
| Tarddiad | Abreschviller, Grandfontaine, Hermelange |
| Aber | Afon Moselle |
| Llednentydd | Nied, Blies, Prims, Sulzbach, Simbach, Saarbach, Rossel, Rohrbach, Isch, Bist, Bièvre, Köllerbach, Ellbach, Leukbach, Eichel, Ruisseau d'Achen, Albe, Landbach, Nied Réunie, Sarre rouge |
| Dalgylch | 7,431 cilometr sgwâr |
| Hyd | 246 cilometr |
| Arllwysiad | 78.2 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Afon yng ngorllewin Ewrop sy'n llifo trwy rannau o Ffrainc a'r Almaen yw Afon Saar (Ffrangeg: Sarre). Ei hyd yw 240 km (149 milltir).
Gorwedd tarddle Afon Saar ym mryniau y Vosges yng ngogledd-ddwyrain Ffainc. Oddi yno mae hi'n llifo ar gwrs i gyfeiriad y gogledd yn gyffredinol i'r Almaen ac yna i gyfeiriad y gogledd-orllewin trwy dalaith Saarland i'w chymer ar Afon Moselle ger Trier.
Mae glannau'r afon yn Saarland yn enwog am ei gwinllanoedd sy'n cynhyrchu gwin gwyn o safon uchel.
