Afon Merddwr

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:55, 8 Ionawr 2014 gan Anatiomaros (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Afon Merddwr

Afon yn Sir Conwy yw Afon Merddwr, sy'n un o lednentydd dde Afon Conwy. Llifa'r afon yn ne-ddwyrain y sir i ymuno ag Afon Conwy ger Pentrefoelas. Hyd: tua 6 milltir.

Cwrs

Tardda'r afon ar lethrau deheuol bryn Mwdwl-eithin (532 m), un o fryniau Mynydd Hiraethog. Ei henw yn rhan gyntaf ei chwrs yw Afon Llaethog. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y de cyn troi i'r gorllewin gerllaw pentref bychan Glasfryn.[1]

Llifa sawl ffrwd i lawr o'r bryniau i lifo i'r afon sy'n llifo drwy gorsdir i'w chymer ag Afon Nug, ffrwd fechan sy'n llifo o'r bryniau ger Pentrefoelas. Mae'r corsydd hyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a adnabyddir fel Corsydd Nug a Merddwr.

Llifa'r afon yn ei blaen gyda'r ffordd A5 ar ei glan dde, dan bont ar y B5113 ger Pentrefoelas ac ymlaen am filltir arall wedyn i'w chymer ar Afon Conwy 2 filltir i'r gogledd o Ysbyty Ifan.[2]

Cyfeiriadau

  1. Map OS 116, !:50,000, Dinbych a Bae Colwyn.
  2. Map OS 116, !:50,000, Dinbych a Bae Colwyn.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: