Afon Medjerda
Afon Medjerda ger Testour | |
| Math | afon |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 36.22286°N 7.60322°E, 37.1117°N 10.2142°E |
| Tarddiad | Mynyddoedd yr Atlas |
| Aber | Gwlff Tiwnis |
| Llednentydd | Oued Mellègue, Oued Siliana |
| Dalgylch | 22,500 cilometr sgwâr |
| Hyd | 460 cilometr |
| Arllwysiad | 29 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
![]() | |
Mae Afon Medjerda (Arabeg: مجردة Oued Medjerda) yn afon sy'n llifo yn bennaf yn Nhiwnisia, gogledd Affrica. Ei hyd yw 416 km (350 km yn Nhiwnisia).
Mae Afon Medjerda yn tarddu ger Souk-Ahras (dros y ffin yn Algeria) ac yna mae'n llifo i gyfeiriad y dwyrain i aberu yn y Môr Canoldir (ger Gwlff Tiwnis). I'r gogledd mae mynyddoedd y Kroumirie. Dyma'e afon barhaol fwyaf yn Nhiwnisia, er ei bod yn dioddef gwahaniaethau mawr yn ei maint yn ôl y tymor.
Oherwydd ei thir alwfial, dyffryn Medjerda yw un o'r ardaloedd mwyaf ffrwythlon yn y wlad. Mae dŵr yr afon - sy'n adnodd prin yn y wlad - yn cael ei defnyddio i'r eithaf trwy gyfres o gynlluniau trydan dŵr ac argaeau.
Am ei bod yn afon strategol bywsig mae hi wedi gweld ei rhan o hanes. Ceir dinas Rufeinig Bulla Regia yn y gogledd a dinasoedd Uttica, Carthago a Nhiwnis (Bagradas y Rhufeiniaid) ger eu haber.
